Bob nos Fercher ar S4C mae Tudur Owen yn ein tywys i stafelloedd byw ar hyd a lled Cymru, a thu hwnt, i wylio pobol yn gwylio rhaglenni teledu.

A thra bo’r digrifwr sy’n lleisio rhaglen Gogglebocs Cymru yn wyneb cyfarwydd, mae’r gwylwyr sy’n cymryd rhan yn newydd i S4C.

Sut brofiad yw ffilmio’r gyfres, a pa mor onest ydy’r sylwebwyr mewn gwirionedd? Cafodd Golwg sgwrs gydag ambell un o’r cast, i ddysgu mwy am y cyfeillion a’r teuluoedd sydd ar y teledu…