Mae Golwg wedi dymchwel y wal dalu ar gyfer yr erthygl hon, i bawb gael blas ar arlwy’r cylchgrawn…
Mi fydd S4C yn gwario cannoedd o filoedd o bunnau ar gynnal cyngerdd yn America ddydd Llun nesaf.
Yn ôl y Sianel Gymraeg mae ‘Cyngerdd Cymru i’r Byd’ yn “gyfle euraidd i ddathlu talentau Cymru ar lwyfan byd eang” a chreu partneriaethau gyda chwmnïau teledu o dramor.
Ar raglen Newyddion S4C yr wythnos ddiwethaf, roedd Prif Weithredwr S4C yn cael ei holi am “wariant enfawr” ar y cyngerdd sydd i’w chynnal a’i ffilmio yn Times Square yn Efrog Newydd.
Roedd Siân Doyle yn ateb cwestiynau am sefyllfa ariannol y Sianel yn dilyn sylwadau’r Cadeirydd, Rhodri Williams, bod S4C yn wynebu “dewisiadau anodd” oherwydd effaith chwyddiant ar ei chyllideb.
Mae S4C yn derbyn £88.85 miliwn o arian cyhoeddus drwy’r ffi drwydded, a gwerth £19.4 miliwn o raglenni megis Pobol y Cwm a Newyddion gan y BBC.
Yn ôl Rhodri Williams, mae’r glec oherwydd y cynnydd mewn chwyddiant “yn sicr o gael effaith andwyol ar ein gwaith”.
Mae llefarydd S4C wedi dweud wrth Golwg na fydda yna “wariant enfawr” ar y cyngerdd yn America – ond nid oedd y Sianel Gymraeg am ddatgelu’r gost o’i chynnal, a hynny am nad yw “yn rhannu costau cynyrchiadau unigol gan ei fod yn wybodaeth fasnachol sensitif”.
Ond yr hyn sydd yn hysbys yw bod S4C wedi cael £250,000 o’r pwrs cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru i’w “wario ar gynnal y gyngerdd yn ogystal â digwyddiadau masnachol yn Efrog Newydd”.
Daw’r arian hwn o bot pres sydd gan y Llywodraeth ar gyfer hyrwyddo Cymru ar gefn llwyddiant y tîm pêl-droed yn cyrraedd ffeinals Cwpan y Byd yn Qatar.
Mae sawl corff wedi derbyn cannoedd o filoedd o bunnau o’r ‘Gronfa Cefnogi Partneriaid Cwpan y Byd’, gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn derbyn £500,000 a Chyngor Celfyddydau Rhyngwladol Cymru wedi cael £259,500.
Mi fydd y Sianel Gymraeg yn talu costau teithio a llety i bump o geffylau blaen y corff yn Efrog Newydd: Siân Doyle y Prif Weithredwr; Llinos Griffin-Williams y Prif Swyddog Cynnwys; Geraint Evans y Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyhoeddi; Non Griffith y Pennaeth Partneriaethau Cynnwys a Digwyddiadau Strategol; a Gwenllian Gravelle y Pennaeth Sgriptio.
Yn ogystal â mynychu’r cyngerdd, mi fyddan nhw yn cynnal cyfarfodydd a chwilio am gyfleon posib i gydweithio.
“Rydym yn gweld y gwariant fel buddsoddiad yn y sianel er mwyn sicrhau llwyddiant a chyd-weithio i’r dyfodol,” meddai llefarydd S4C.
“Bydd staff S4C yn mynychu sawl cyfarfod yn Efrog Newydd yn ystod eu hamser yna.
“Bydd y cyfarfodydd yma yn eu galluogi i greu partneriaethau ac mae’n gyfle amhrisiadwy i drafod ein cynnwys ac i’w hybu mewn un o farchnadoedd mwyaf yn y byd.”
Mi fyddan nhw yn chwilio am farchnadoedd newydd i raglenni’r Sianel, fel sydd wedi digwydd gydag un o’u dramâu diweddar.
“Mae cyfres gyntaf Yr Amgueddfa wedi bod yn llwyddiant mawr i gwmni gynhyrchu Boom sydd wedi gwerthu’r gyfres i Brit Box US a Chanada a sianel AXN yn Siapan,” meddai llefarydd S4C.
Bryn Terfel a Ryan Reynolds
Mi fydd ‘Cyngerdd Cymru i’r Byd’ yn cynnwys Cymry sy’n fyd enwog a rhai o sêr Hollywood.
Mi fydd y cyngerdd yn digwydd nos Lun nesaf, 14 Tachwedd, ac yn cael ei dangos ar S4C ar nos Sul, 20 Tachwedd – ar drothwy’r gêm rhwng Cymru ac America yng Nghwpan y Byd sydd am saith o’r gloch ar y nos Lun ganlynol, 21 Tachwedd.
“Bydd Ioan Gruffudd yn arwain y gyngerdd,” meddai llefarydd S4C, “a bydd perfformiadau gan Bryn Terfel, Rhys Ifans, Mark Evans, LEMFRECK, Dionne Bennett, Eve Goodman, Mared Williams ac Owain Gruffudd Roberts.
“Hefyd, bydd Ryan Reynolds a Rob McElhenny yn derbyn gwobr arbennig am eu cyfraniad i ddiwylliant Cymru.”
Y penwythnos yma mae Gŵyl y Wal Goch yn cael ei chynnal yn Wrecsam, a cheir stori amdani ar dudalen 14.
Mae S4C wedi trefnu’r cyngerdd yn Sony Hall yn Times Square, sy’n dal 500 o bobl, i “gyd-fynd â Gŵyl Wrecsam ac yn cynnwys perfformiadau o leoliadau eiconig ar draws Cymru, a chyfraniadau gan sêr disglair byd-enwog,” meddai llefarydd S4C.
“Ar y cyd â Llywodraeth Cymru a’r FAW, a gyda chefnogaeth BAFTA yng Ngogledd America, mae S4C wedi gwahodd Cymry yn yr UDA sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol yn ogystal â chwmnïau Darlledu, Ffrydio a Chwmnïau cynhyrchu ac aelodau o’r Cymdeithasau Cymreig i’r cyngerdd.”
Mae’r Sianel Gymraeg yn dweud y bydd y cyngerdd yn denu buddsoddiad yn ôl i Gymru.
“Bydd S4C yn cydweithio gyda’n partneriaid yn Cymdeithas Bêl-droed Cymru, y Comisiwn Ffilm Prydeinig, Cymru Greadigol, Croeso Cymru, ac adran Masnach a Buddsoddiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru yn yr Unol Daleithiau i dynnu sylw at y gronfa dalent sydd gan Gymru i’w chynnig,” meddai llefarydd.
“Byddwn hefyd yn creu partneriaethau busnes gyda darlledwyr rhyngwladol ac yn ehangu ein modelau cyd-gynhyrchu, hyrwyddo cyfleusterau lleoliadau, a manteision gweithio gydag S4C a chwmnïau ac asiantaethau Cymreig.”