Yr actor 23 oed sy’n portreadu’r cymeriad ‘Carbo’ yn Dal y Mellt, addasiad S4C o nofel Iwan ‘Iwcs’ Roberts.
Yn wreiddiol o Frynteg ar Ynys Môn ond bellach yn byw yn Llundain, bydd Gwïon yn ymddangos mewn cyfres arswyd newydd o’r enw Wolf ar BBC One yn y flwyddyn newydd.
Deall lliw a siapiau
Yn ddiddorol erbyn hyn, un o fy atgofion cyntaf ydy crwydro rownd siopau dillad efo mam. Mae mam yn dewis yn fwriadus iawn be mae hi’n wisgo. Yn gwybod yn iawn pa liwiau a siapiau sy’n ei siwtio. Gwybod hefyd bod yn rhaid i chi fod yn gyfforddus yn eich croen cyn dim arall. Buan iawn byddai fy chwaer a fy nhad yn colli amynedd ond mi fyddwn i’n crwydro efo mam am oriau yn dewis a dethol, yn stydio patrymau a lliwiau a siapiau. Roeddwn i’n falch iawn o fy nheitl fel “personal stylist Rhian Mair”. Dysgodd mam i mi bwysigrwydd steil dros ffasiwn neu drend. Wrth ddod i ddeall beth oedd yn siwtio mam, des i ddeall beth oedd yn fy siwtio i.
A dyna sail fy steil hyd heddiw. Deall fy lliwiau. Mae lliwiau niwtral a hydrefol yn fy siwtio i oherwydd fy nghroen golau a fy ngwallt coch. Dydw i ddim ofn lliw chwaith. Mae gen i ddau capsule wardrobe o ran lliw. Lliwiau niwtral, daearol i fynd efo esgidiau brown a gemwaith aur; a lliwiau llachar i fynd efo sgidiau duon, gwynion neu liwgar a gemwaith arian. Deall fy siapiau. Ges i costume designer yn dweud wrtha i’n ddiweddar bod hi’n braf iawn cynllunio gwisgoedd ar fy nghyfer gan fod gen i “old Hollywood proportions”. Coesau hirion, torso byr ac ysgwyddau llydan. Mae cuts mwy traddodiadol yn fy siwtio fi felly. Crysau, siwmperi, siacedi wedi eu torri’n sgwâr i’n ysgwyddau i. Trowsus neu jîns uchel ar fy hips i gymryd mantais o’r coesau hirion.
Plethu’r classic a’r cwiar
Dydw i ddim chwaith yn un am sticio’n llwyr i’r traddodiadol. Dw i’n hoff o blethu’r classic a’r cwiar. Crys ffurfiol a pherlau, fest a platfform docs, neu hyd yn oed rywbeth mor syml â thycio siwmper mewn. Dw i’n mwynhau’r rhyddid o chwarae efo dillad a darganfod nad oes un ffordd gywir o wisgo dilledyn.
Er bod mam wedi bod yn ddylanwad mawr arnaf i, mae mawrion y byd ffasiwn wedi cael eu dylanwad hefyd. A bod yn onest, wrth wylio Drag Race roeddwn i’n clywed pethau fel “it’s very Vivian Westwood, Alexander McQueen”, neu “a classic Dior silhouette”, neu, yn syml iawn, “Versace the house down boots”, ac roeddwn i eisiau gwybod o le’r oedd y dywediadau yma’n dod. Roedd dechrau astudio’r byd ffasiwn arall yma yn agoriad llygad. Yn gyntaf, roedd ffasiwn yn cael ei werthfawrogi fel celfyddyd ac yn ail, roedd hi’n hawdd iawn gweld dylanwad enfawr y mae’r dillad drud yma’n ei gael ar ddillad y Stryd Fawr. Dw i’n cofio gwylio The Assassination of Gianni Versace a disgyn mewn cariad efo’i waith. Nid yn unig gan fy mod i’n ffan o waith Ryan Murphy a Darren Criss, ond mopio efo steil gweledol y gyfres yn adlewyrchu gwaith Versace.
Mae’n ddefod flynyddol gen i i gael golwg ar adrannau sêl y cynllunwyr mawr wedi’r Nadolig. Dydw i ddim yn prynu dim, achos mae pob dim llawer rhy ddrud, ond dw i wir yn mwynhau astudio pob dilledyn fesul un. Mae Versace wedi dysgu i mi beidio bod ofn patrwm a phwysigrwydd teilwra o safon. Vivienne Westwood ac Alexander McQueen wedi agor fy llygaid i’r symudiad pync Prydeinig.
Rhannu dillad
Wedi sôn am yr holl high-end fashion yma, stiwdant tlawd oeddwn i llynedd a dw i bellach yn actor ar ddechrau fy ngyrfa, felly mae’r dillad drudion yma yn bell tu hwnt i fy ngafael i. Dydw i ddim yn dueddol o brynu dillad o’r newydd oherwydd yr effeithiau amgylcheddol a cham-drin gweithwyr. Dw i’n hoff iawn o siopau elusen, yn enwedig mewn ardaloedd cyfoethog yn Llundain oherwydd mae yna ddillad drud iawn am ffeifar!
Mae’n ffrindiau a finnau yn reit gymunedol efo dillad hefyd. Os ydyn ni’n mynd allan, yn aml iawn bydd rhywun yn dweud: “O, gen i grys fydda’n berffaith efo’r trywsus yna”. Yn anffodus, mae’r un peth yn wir am adra ac ambell ddilledyn gan mam neu dad yn mynd “ar goll” pan dw i’n mynd nôl i Lundain!
Byw mewn docs
Mae’n amlwg iawn i bawb sy’n fy adnabod i, ac o’r lluniau yma, fy mod i’n byw mewn docs. Ges i fy mhâr cyntaf yn 16 oed, bŵts classic duon. Wedyn daeth rhai coch, rhai swêd, esgidiau duon. Yn ddiweddarach, fe wnes i brynu’r pâr gwyn ar ôl derbyn fy joban actio gyntaf, y pâr du newydd yn ystod saethu Dal y Mellt, a “benthyg” y pâr glas tywyll gan dad. Roedd gen i saith pâr felly. Ond dim ond chwech sydd wedi goroesi. Coeliwch neu beidio, toddais sodlau’r esgidiau yn nhân Maes B Ynys Môn. Roedd pawb wedi mynd i’w gwlâu a’r tân wedi marweiddio. Dyma fi’n meddwl: “Dw i isio bod yn frenin Maes B”, felly dyma fi’n neidio’r ffens a rhedeg i ganol y tân. Ar ôl ychydig eiliadau o brofi’r frenhiniaeth, dyma fi’n teimlo fy nhraed yn cynhesu a gweld gweddillion y tân yn orengoch ar wadnau’r docs. Wps!
Steil, nid ffasiwn
Dw i wastad yn gwisgo rhyw fath o emwaith. Dw i’n hoff iawn o dorchau oherwydd eu cysylltiadau Celtaidd. Dw i’n gwisgo un ar hyn o bryd ges i’n bresant graddio gan mam a dad efo ysgythriad personol arno.
Mwclis berlau ydy un arall. Dw i’n cofio stydio un oedd gan nain ers talwm, a mopio efo’r ffordd roedd y golau’n hitio pob perl fesul un. Ond, fel llawer iawn o bobl ifanc cwiar, roeddwn i’n hunanblismona, mewn ffordd. Meddwl fy mod i ddim yn cael gwisgo rhywbeth fel yna. Rhyw homoffobia mewnol.
Dyna pam, mewn gwirionedd, mae steil mor bwysig i mi. Bellach, dw i’n gwisgo beth bynnag dw i eisio yn y gobaith fydda i’n digwydd pasio rhywun cwiar sy’n sdryglo er mwyn iddyn nhw gael deall ein bod ni yma ac yn weledol, ac os ydyn nhw’n nhw eisio gwisgo mwclis perlau gorjys fel hon, mae’n berffaith iawn iddyn nhw wneud.
Fel mantra mam ugain mlynedd yn ôl, a’i mantra hi o hyd – steil, nid ffasiwn – a steil ydy bod yn gyfforddus yn eich croen eich hun.
Be fasa chi’n ei achub o’r wardrob mewn argyfwng?
Cwestiwn anodd! Mae’n agos iawn rhwng y docs a’r perlau. Mwy na thebyg y perlau sy’n mynd â hi achos byddai cario chwe phâr o docs lawr grisiau mewn argyfwng yn anodd!
Lluniau gan Iolo Penri