Mae’n addo bod yn benwythnos a hanner draw yn Wrecsam lle mae gŵyl bêl-droed yn cael ei chynnal…

Y golwr Neville Southall, yr ymosodwr chwedlonol Ian Rush, y chwaraewr chwimwth Roberts Earnshaw a’r arwr canol cae a hyfforddwr Brian Flynn – dyma rai o’r sêr fydd yn dod ynghyd yn Wrecsam cyn taith Cymru i Qatar.

Gyda gêm gyntaf Cymru yn ffeinals Cwpan y Byd ers 1958 yn dod yn nes ac yn nes, mae’r Wal Goch yn dod ynghyd mewn gŵyl i ddathlu diwylliant pêl-droed.