Un o’r llyfrau sy’n siŵr o gyrraedd brig siart gwerthwyr gorau’r Nadolig yma yw hunangofiant Aled Hall, y canwr opera sy’n gymeriad a hanner…

Mae’r dyfyniad o lyfr newydd Aled Hall sydd ar y dudalen gyferbyn yn dal cymeriad y tenor amryddawn i’r dim. Ei natur ffraeth a’i ddireidi, ei hoffter o gymdeithasu a diddanu, a phrawf ei fod yn cymryd y busnes canu yma o ddifri pan fo raid.