Does byth prinder fideos gan wleidyddion a sylwebwyr gwleidyddol yn sgrechian am ein sylw ar y we.

Ac maen nhw’n drwch ar hyn o bryd, wrth gwrs, wrth iddyn nhw geisio ein darbwyllo bod sail ddemocrataidd, rywsut, i’r ymgiprys mewnol dros arweinyddiaeth y blaid Geidwadol ac felly Brif Weinidogaeth y Deyrnas Unedig.

Rhaid i fi gyfaddef mai cau fy llygaid a disgwyl y canlyniad yr ydw i wedi’i wneud yn bennaf.