Roedd yna’n sicr fwrlwm draw ym Mae Caerdydd yr wythnos hon wrth i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, ac arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, ddadlau’n ffyrnig ynglŷn â’r Gwasanaeth Iechyd.

Yn ystod sesiwn holi’r Prif Weinidog, fe wnaeth Andrew RT Davies ddyfynnu aelod o’r cyhoedd oedd wedi dweud bod gofal iechyd yng Nghymru yn debyg i’r gwasanaeth fyddai rhywun yn ei weld mewn “gwlad trydydd byd”.