Ydi’r argyfwng ar ben. Ydi dyn o’r enw Jeremy wedi achub y byd? No-wê meddai’r blogwyr Cymreig…

“Dychmygwch eich bod yn ymgyrchydd tros ddemocratiaeth yn Tsieina yn gwylio pantomeim San Steffan. Mae eich llywodraeth yn dweud wrth ei phobl y bydd democratiaeth ryddfrydol yn siŵr o arwain at anhrefn ac elît yn cipio grym. Mae gweld y Deyrnas Unedig yn llithro i ganol dicter amhosib ei lywodraethu a thlodi yn enghraifft berffaith… Mae’r marchnadoedd wedi gwrthdroi polisi’r llywodraeth mewn chwinciad. Mae’r ffaith nad oes neb yn ffieiddio at hyn yn dangos pa mor bell y mae’r system yn caniatáu i’n harweinwyr grwydro o orfod bod yn atebol. Heb fandad, dydyn nhw ddim yn ein cynrychioli ni fwy na’r masnachwyr gilts a ataliodd eu ffolineb…” (Ben Wildsmith ar nation.cymru)

Dydi Jeremy ddim hyd yn oed wedi achub yr Undeb, yn ôl John Dixon…

“Mae dianc rhag ein tynged bresennol yn gofyn am fwy na newid y llaw ar y llyw; mae’n gofyn am i’r Deyrnas Unedig ddatblygu dealltwriaeth realistig o’i safle a’i statws yn y byd, a bod yn barod i gydweithredu ag eraill, yn enwedig ein cymdogion agosaf, ac am drawsnewid strwythurau a phrosesau gwleidyddol sy’n rhoi grym llwyr i ddilynwyr cwlt, ar sail lleiafrif o’r pleidleisiau. [Ond] pan fydda’ i yn edrych ar Starmer a Llafur, dydw i’n gweld dim o hynna, dim ond awch i gael eu cyfle yn tynnu’r lifars… Mae aros yn yr un undeb rhyfedd oherwydd teimlad o ddyletswydd (hoff safbwynt Llafur Cymru, mae’n ymddangos) yn ein tynghedu i gael ein llusgo yn ein blaenau gan yr un syniad rhithiol yn y dyfodol…” (borthlas.blogspot.com)

Nid fod popeth yn wych yng Nghymru. Mewn blog sobreiddiol mae Shakira Morka yn sôn am yr hiliaeth y mae hi ac eraill wedi ei wynebu yn y system addysg Gymraeg – mae hynny hefyd, meddai, yn galw am newid sylfaenol mewn agweddau…

“Yn fy mhrofiad i, mae’r diffyg amrywiaeth diwylliannol o fewn ysgolion Cymraeg ynghyd â chwricwlwm sy’n rhoi blaenoriaeth i anghenion myfyrwyr gwyn yn cael effaith niweidiol ar yr ychydig fyfyrwyr Du… mae yna ragrith rhyfedd; mae’r Cymry eu hunain wedi cael eu gormesu, ac eto mae sefydliadau Cymraeg yn parhau i atgyfnerthu’r agwedd hon tuag at grwpiau ethnig lleiafrifol sydd, gallech ddadlau, yn wynebu annhegwch dwysach, mwy hiliol.”

Pryder economaidd tymor hir sydd gan Steffan Evans ar bevanfoundation.org lle mae eu dadansoddiad o ffigurau ynghylch segurdod economaidd yn dangos cynnydd neilltuol yn yr oedran rhwng 25 a 34 a bod 80% o’r cynnydd yn ddynion…

“Byddai gostyngiad gweithwyr o unrhyw oed yn cael effaith ddwys ar economi Cymru. Byddai’n taro incwm o drethi ac yn effeithio ar allu busnesau ledled Cymru i ehangu a datblygu. Mae’r effeithiau hyn yn cael eu chwyddo pan fo’r gostyngiad yn y gweithlu’n cael ei yrru gan weithwyr iau, gyda’r peryg na fydd rhai fyth yn gweithio eto.”