Mae Elinor Wyn Reynolds wedi rhoi chwarter canrif o gerddi rhwng dau glawr… 

‘Am lwmp o ddim, am ddiffyg dyn, am wastraff lle aruthrol, am hen sach oren wag o wynt cyfoglyd, brwnt, rhechregol…’

Mae hi’n ddigon hawdd dyfalu pwy yw gwrthrych y llinellau pigog yma o gerdd gan y bardd a’r beirniad llenyddol, Elinor Wyn Reynolds, o’i chyfrol newydd.