Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ganol De Cymru yn galw am ddatganoli’r cyfrifoldeb tros Ystâd y Goron i Lywodraeth Cymru.

Yn ôl Rhys ab Owen mae yna berygl bod adnoddau ac arian “unwaith eto yn llifo mas o Gymru”.

Dyma fater sydd wedi datblygu i fod yn fwy a mwy o bwnc trafod dros y ddwy flynedd diwethaf.

A does dim syndod o ystyried bod gwerth asedau Ystâd y Goron yng Nghymru wedi cynyddu o £49.2m yn 2020 i £549.1m yn 2021, ac yna i £603m yn 2022.