Leanne Wood yn cnoi cil ar yr ymgyrch tros annibyniaeth i Gymru, yr holl sylw i’r Teulu Brenhinol, a thrafod ei swydd newydd…

Er bod yna “lot fawr o waith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i gryfhau’r wladwriaeth Brydeinig,” mae Leanne Wood – un o weriniaethwyr amlyca’r wlad – yn credu mai nawr yw’r amser i drafod annibyniaeth i Gymru.