Mae cân newydd wedi ei chreu ar gyfer addasiad newydd o’r sioe gerdd Y Mab Darogan. A fydd ‘Sycharth yn fy Ngwaed’ yn tanio calonnau’r Cymry yn 2022?

“Ydi, mae hi’n sioe genedlaetholgar”. Dyna fel mae Penri Roberts, un o driawd adnabyddus Cwmni Theatr Maldwyn, yn disgrifio’r sioe gerdd Y Mab Darogan, sydd ar fin cael ei hatgyfodi ar ôl 40 mlynedd.