Wythnos diwethaf wnes i adael yr unig swydd gyson sydd gyda fi yn y byd addysg. Dyma oedd yr unig swydd byse wedi caniatáu incwm misol cyson, ac mae’r penderfyniad yma wedi fy ngadael gyda chyffro gwefreiddiol penysgafn, ar un llaw, ond arswyd rhewllyd ar y llaw arall. Fe wnes i’r penderfyniad ar ôl sylwi dros y flwyddyn ddiwethaf fod y swyddi mewn sefydliadau addysg oedd yn caniatáu i mi wneud fy ngwaith cyfarwyddo a cherddoriaeth yn dechrau bwyta mewn i’r egni, cyfrifoldebau ac amser roeddwn i