Fis yma mae’r opera gyntaf erioed i blant a theuluoedd yn yr iaith Gymraeg ar daith o amgylch y wlad.

Chwedl y Brenin March yw testun opera Cyfrinach y Brenin, sydd wedi cael ei chyfansoddi gan Mared Emlyn, cyfansoddwraig o Eglwysbach ger Llanrwst.

Hon yw’r opera gyntaf i Mared ei chyfansoddi, ac mae’r cast yn cynnwys sawl un o sêr ifanc y grefft – Erin Gwyn Rossington, Steffan Lloyd Owen, Elen Lloyd Roberts, Rhys Meilyr a Beca Davies.