Disgwyl 80,000 yn y Stadiwm Rygbi ar gyfer gornest reslo fawreddog…
Mae disgwyl y bydd 80,000 o ffans reslo yn heidio draw i’r Stadiwm Rygbi Cenedlaethol ddydd Sadwrn yma ar gyfer “digwyddian unwaith mewn cenhedlaeth”.
Bydd sioe fawr enwog y WWE (World Wrestling Entertainment) yn ymweld â Chaerdydd ar gyfer ‘Clash at the Castle’ lle bydd modd gweld reslars mwyaf poblogaidd y byd yn cystadlu gyda’i gilydd.
Mae’r WWE yn gwmni adloniant Americanaidd sydd werth miliynau ar filiynau o ddoleri, ac mae pobol o bedwar ban byd yn ymddiddori yn y cymeriadau sy’n reslo ar syrcit enwog y WWE.
Aeth 30 mlynedd a mwy heibio ers i’r cwmni o America gynnal sioe mewn stadiwm ym Mhrydain, ac mae’n debyg mai dyma’r sioe reslo gyntaf i gael ei chynnal mewn stadiwm yng Nghymru erioed.
Does dim dwywaith amdani, mae ffans reslo ar draws Prydain ar bigau’r drain yn disgwyl i gael mynd i weld eu hoff sêr yn waldio ei gilydd yn ein stadiwm genedlaethol.
Un dyn sy’n sicr yn edrych ymlaen ydi Ioan Morris, sy’n ffan enfawr o’r gamp ac wedi ysgrifennu llyfr llawn lluniau i blant am reslar mwyaf adnabyddus Cymru, Orig Williams.
Bydd y llyfr – Bywyd Beiddgar Orig Williams – yn cael ei gyhoeddi i gyd-daro â’r digwyddiad hanesyddol yng Nghaerdydd.
Un o gyfrolau’r gyfres boblogaidd i blant ‘Enwogion o Fri’ / ‘Welsh Wonders’ – sy’n talu teyrnged i rai o enwau enwocaf y genedl – yw’r llyfr ac mae’n cael ei gyhoeddi gan Llyfrau Broga.
Dyma’r gyfrol gyntaf i blant y mae Ioan Morris wedi’i ysgrifennu, ac er ei fod yn cyfaddef fod profiad wedi bod yn sialens ar adegau, cafodd fwynhad mawr o ysgrifennu am un o’r dynion wnaeth sbarduno ei gariad tuag at reslo.
Roedd Orig Williams yn reslar a hyrwyddwr reslo proffesiynol Cymraeg ac yn wyneb adnabyddus ar sioe reslo S4C yn y 1980au.
Treuliodd ei yrfa reslo yn portreadu persona milain dan y ffugenw ‘El Bandito’, ac ar ôl ymddeol daeth yn hyrwyddwr, rheolwr a chyflwynydd teledu.
Yn hwyrach yn ei fywyd daeth Orig Williams yn newyddiadurwr chwaraeon i’r Daily Post, ac yn 1985 fe ysgrifennodd ei hunangofiant Cario’r Ddraig: Stori El Bandito.
Daeth yn aelod o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol 2000 yn Llanelli.
“Digwyddiad unwaith mewn cenhedlaeth”
Pa mor arwyddocaol yw’r ffaith bod y digwyddiad hwn yn dod i Stadiwm y Principality felly?
“Mae e’n teimlo fel digwyddiad unwaith mewn cenhedlaeth i reslo ym Mhrydain, heb sôn am Gymru,” meddai Ioan Morris wrth golwg.
“Mae hi wedi bod dros 30 mlynedd ers i’r WWE gynnal sioe mewn stadiwm ym Mhrydain, a dydyn nhw erioed wedi’i wneud e yng Nghymru – mae’n rhaid mai dyma’r sioe reslo gyntaf i gael ei chynnal mewn stadiwm yng Nghymru erioed.
“Yn anffodus mae’r cwmni wedi cael gwared ar ei holl reslars Cymraeg yn yr wythnosau diwethaf, dw i ddim cweit yn deall pam.
“Ond heblaw am hynny mae e’n sicr yn rhywbeth i edrych ymlaen amdano.
“Dw i wedi gweld bod branding Bwrdd Twristiaeth Cymru ar bob un o’r posteri.
“Maen nhw wedi gwneud job dda o gael y wybodaeth mas bod y peth yma yn digwydd yng Nghymru.
“Ac ie, mae e ychydig bach on the nose gyda’r ddraig a’r castell ac ati, ond dyna ni, go for it.”
“Dim llawer o wahaniaeth rhwng reslo a ballet”
Mae yna rai sy’n gweld reslo fel dim byd mwy na phobol gyhyrog mewn tronsiau lliwgar yn taflu ei gilydd o gwmpas y lle a gwneud ystumiau od.
Fodd bynnag, wfftio’r awgrym hwnnw mae Ioan Morris, sydd o’r farn fod yna elfen osgeiddig iawn yn perthyn i’r holl beth.
“I fi, does dim llawer o wahaniaeth rhwng reslo a rhywbeth fel ballet, er dw i’n gwybod bod hynna yn swnio’n od,” meddai.
“Ond rydych chi’n defnyddio’r art form yma i adrodd straeon.
“Dyna yw e yn y bôn, adnodd i adrodd straeon.
“Dw i’n gwybod bod pobol yn adrodd deialog, pobol yn siarad ar feicroffon a phethau fel yna, a bod yna elfen o opera sebon i’r holl beth.
“Ond i fi, y reslo ei hun sy’n ddiddorol, y ffaith bod yr holl fanylion yma yn gallu adeiladu ar yr hyn sydd wedi digwydd o’r blaen.
“Mae’r straeon yn gallu mynd ymlaen am flynyddoedd weithiau.
“Does dim ots gydag i fod e’n fake, mae pawb yn gwybod fod e’n fake. Ond ie, ballet yw’r peth agosaf dw i’n gallu meddwl amdano fel cyfrwng.
“Felly os ydych chi’n fodlon i suspend disbelief, mae yna lot o hwyl i’w gael.”
“Gadael ei farc”
Wrth droi at drafod ei lyfr am Orig Williams, dywed Ioan Morris bod y gŵr o Ysbyty Ifan yn Nyffryn Conwy wedi “gadael ei farc” ar y byd reslo yn ogystal â diwylliant y Cymry.
“Dw i’n meddwl bod e’n rhywun unigryw yn hanes poblogaidd Cymru,” meddai.
“Dw i’n credu mai ef yw’r reslar mae rhywun yn meddwl amdano pan maen nhw’n meddwl am reslo Cymraeg.
“Jyst y ffaith ei fod o’n larger than life, yn gwneud yr holl bethau yma.
“Roedd e’n gwneud pethau gyda’r Eisteddfod, yn ysgrifennu mewn papurau newydd, roedd o’n ymddangos ar S4C pan oedd S4C newydd ddechrau.
“Dw i ychydig yn ifanc i allu dweud fy mod i wedi gweld Orig yn y glory days, ond dw i’n cofio Orig ar y teledu.
“Dw i’n credu ei fod e wedi gadael ei farc ac mae ei bresenoldeb o’n dal i gael ei deimlo yng Nghymru hyd heddiw.”
Ceisio dilyn ôl troed Orig
“Am un haf pan oeddwn i’n 18 fe wnes i geisio dysgu bod yn reslar, er aeth e ddim yn dda iawn,” cyfaddefa Ioan Morris.
“Ond roedd yr athro yn adnabod Orig ac roedd e wastad yn dweud: ‘Byddai Orig yn dweud hyn, dyma fyddai Orig yn ei wneud’.
“Felly Orig oedd mentor yr holl beth er nad oedd e yna. Fe oedd yr esiampl i ddilyn, the gold standard.”