Mae arddangosfa gelf unigryw sydd wedi’i chomisiynu i godi ymwybyddiaeth o gelf, diwylliant a bywydau’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr wedi gadael Cwm Rhondda gan symud i Gasnewydd ar gyfer mis Medi. Ac mae ei churadur yn dweud, er bod y Deyrnas Unedig ar ei hôl hi wrth godi ymwybyddiaeth o’i chymunedau, fod Cymru rywfaint ar y blaen i’r gwledydd eraill.