Wrth i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro ddathlu carreg filltir nodedig, mae yna wynebu sawl her wrth i fwy a mwy fwynhau ‘gwyliau gartref’…

Pwysau nifer cynyddol o ymwelwyr a newid hinsawdd yw rhai o’r prif heriau sy’n wynebu Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wrth iddo ddathlu’r 70 oed.

Wrth edrych yn ôl ac edrych ymlaen, mae Tegryn Jones, Prif Weithredwr y parc yn pwysleisio bod gwaith cyson wedi cael ei wneud dros y blynyddoedd i ymateb i’r heriau.