Portread o Priya Hall

Mae comedïwraig o Gaerdydd yn prysur wneud enw iddi hi ei hun fel perfformiwr stand-yp ac wedi cefnogi’r ddigrifwraig adnabyddus Katherine Ryan mewn arenas enfawr.

Yn ogystal â pherfformio ar lwyfannau ar hyd a lled y wlad a gwneud i gynulleidfaoedd Cymraeg a Saesneg chwerthin, mae Priya Hall wedi sgrifennu cyfresi ar gyfer y teledu a’r radio.