Er bod Elis Derby wedi ein difetha gydag ambell sengl newydd yn gynharach eleni fel ‘Disgo’r Boogie Bo’ a ‘Lawr Ar Fy Nghwch’, aeth dwy flynedd heibio ers rhyddhau ei albwm gyntaf, 3.

Ond dros y misoedd diwethaf, mae wedi bod yn brysur yn recordio’i ail albwm yn Stiwdio Sain…