Aeth y ferch o Gaerdydd ati i ddysgu Cymraeg yn iawn yn ystod y pandemig ac mae hi bellach yn siarad yr iaith gyda’i chariad o ddydd i ddydd.
Wedi’i phenodi’n diwtor Dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin, mae hi wedi ei dewis i ddilyn cynllun hyfforddiant Tiwtoriaid Yfory…
Sut beth yw cael eich penodi yn Diwtor Dysgu Cymraeg?
Mae o’n anhygoel. Pan ddechreuais i ddysgu doeddwn i ddim hyd yn oed yn meddwl am allu bod yn athro, ond mae teimlo fel dw i’n gallu dysgu pobol eraill nawr yn anhygoel. Dw i’n reit falch o fy hun.
Pam aethoch chi ati i ddysgu Cymraeg?
Pan wnes i ddod yn ôl o’r brifysgol yn Lloegr roedd lot o fy ffrindiau wedi gadael so o’n i jest eisiau cwrdd â phobol. Roedd yna wersi am £90 a ro’n i’n meddwl bo hynna’n gyfle anhygoel i gwrdd â phobol. Wnes i gwrdd â fy nghariad, dw i wedi bod i briodas un o’r sylfaenwyr… so dw i wedi gwneud lot o ffrindiau.
Sut brofiad fu dysgu siarad Cymraeg?
Yn y dechrau, ro’n i’n ffeindio fo’n rili anodd ond roedd hynny cyn y pandemig. Ond wedyn pan ddaeth y pandemig roedd o’n rili pwysig i fi achos roedd e’n gyfle i jest siarad efo pobol a chael cysylltiad gyda’r byd cymdeithasol. So roedd e’n help mawr i fi.
Dw i’n teimlo’n reit gryf am y ffaith bod os ti ddim yn teimlo fel ti’n rhan o’r byd ac wedyn yn dechrau dysgu Cymraeg, ti’n gallu cael byd newydd.
Beth ydych chi’n astudio ar gyfer eich gradd Meistr mewn Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Caerdydd?
Dw i’n astudio caffael iaith, so sut mae pobol yn dysgu [siarad iaith], a dw i’n edrych yn enwedig ar ddysgu oedolion.
Beth yw eich atgof cynta’?
Dw i’n meddwl yr un cyntaf oedd jest y teimlad o fod ar ysgwyddau fy nhad a theimlad ei ben moel dan fy nwylo.
Beth yw eich ofn mwya’?
Torri asgwrn. Dw i’n rili drwg gyda phoen a phan o’n i’n ifanc do’n i methu hyd yn oed gwneud roly poly achos ro’n i’n poeni bod fy ngwddf am fynd ‘snap’!
Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?
Dw i’n rili hoffi nofio gwyllt ar hyn o bryd a mynd i’r môr neu lynnoedd. Dw i wedi bod i Ddyffryn Nantlle i gampio eitha’ lot o weithiau ac mae yna lynnoedd rili hyfryd yna.
Beth sy’n eich gwylltio?
Cyn fy ngradd meistr ro’n i’n gweithio mewn caffi a ro’n i’n rili casáu tynnu’r caead oddi ar y llaeth – y seal bach. Roedd y seal yn aml yn torri ac roedd angen ei drywanu efo rhywbeth. Ro’n i’n casáu fe.
Pwy fyddech chi yn gwahodd i bryd fwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?
Jane Austen achos fi’n ffan fawr o’i gwaith hi a meddwl mai hi’n reit grafog a witty. Byddai’n ddiddorol clywed ei barn hi am y dyddiau yma. Ac wedyn James Acaster oherwydd mae lot o straeon doniol ‘da fe! A Miriam Margolyes am yr un rheswm.
Dw i ddim yn siŵr am y bwyd, falle pitsa caprese o’r Eidal neu jyst pêl enfawr o gaws mozzarella buffalo gyda thomatos ffresh a basil – cyhyd ag y bydd mozzarella gyda ni!
Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?
Dylwn i ddweud fy nghariad, Dickon. Wnaethon ni gwrdd trwy’r gwersi Cymraeg a nawr rydym yn siarad Cymraeg gydag ein gilydd pob dydd.
Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?
Da iawn.
Hoff wisg ffansi?
Dw i ddim rili’n gwisgo lan ond dw i’n rili hoffi’r 1980au, felly efallai byddwn i’n gwisgo lan fel Meg Ryan neu Winona Ryder yn rhyw ffilm.
Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?
Pan o’n i yn yr eisteddfod yn fy ysgol uwchradd, roedd fy mrawd yn cystadlu’n y categori dawns a wnaeth o wisgo fel Shakira. Ond doedd o heb ddweud unrhyw beth amdano fe cyn mynd ar y llwyfan. Roedd fy ffrindiau yn chwerthin ar fy mhen i am wythnosau.
Gwyliau gorau?
Cael mynd i Siapan pan ro’n i yn y brifysgol. Ro’n i ar raglen i fod yn athro i fyfyrwyr ac er roedden nhw gyd yn siarad Saesneg da, roedden ni eisiau helpu nhw gyda’u hyder. Ro’n i’n byw gyda dau fyfyriwr a’u teulu ac roedd e jest mor anhygoel. Dyna le wnes i ddysgu fy mod i eisiau bod yn athro. Dw i jest yn rili hoffi Siapan ac roedd e’n dymor y blodau ceirios ar y pryd hefyd – roedd popeth mor bert!
Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?
Poeni bod y drws ar agor. Mae angen i fi fynd lawr pob nos i tsiecio.
Hoff ddiod feddwol?
Dw i bob tro’n cael G&T. G&T yw’r peth gorau yn y byd.
Beth yw’r llyfrau difyrraf i ti eu darllen?
Yn y Saesneg, This is Going to Hurt gan Adam Kay. Roedd e mor, mor ddoniol a dw i ddim fel arfer yn chwerthin yn uchel wrth ddarllen. Yn ddiweddar darllenais i The Seven Husbands of Evelyn Hugo gan Taylor Jenkins Reid. Wnes i ddarllen o mewn dau neu dri diwrnod.
Ond yn y Gymraeg dw i’n darllen Iaith y Nefoedd gan Llwyd Owen ar y funud sy’n lot o hwyl.
Hoff air?
Yn y Gymraeg dw i’n rili hoffi geiriau gyda sain ‘gwy’ neu ‘gw’ so gwyllt, gwair a geiriau fel yna. Mae e jest yn swnio’n rili pert.
Beth wnaethoch chi ddarganfod yn y cyfnod clo?
Y Gymraeg. Dechreuais i ddysgu cyn y pandemig ond yn ystod y pandemig wnes i rili mynd ati a chael gafael ar yr iaith.
Rhannwch gyfrinach efo ni…
Gyda’r Gymraeg, dw i dal ddim yn gwybod sut i ddweud ‘ydw’ neu ‘wyf’ neu ‘do’ yn gywir. Lot o’r amser dw i jest yn dweud ‘wrth gwrs’.