“Mae’r frwydr am amlygrwydd i gynnwys Cymraeg hyd yn oed yn fwy nag yr oedd pan sefydlwyd S4C,” yn ôl Geraint Evans, Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyhoeddi S4C.

Daw ei sylwadau ar drothwy sgwrs am ddyfodol newyddiaduraeth sy’n cael ei chynnal ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw (4 Awst).

Yn ymuno â Geraint Evans ar y panel am 1.30pm ym Mhabell Prifysgol Caerdydd mae Branwen Thomas, Golygydd Cynnwys Cymraeg ITV Cymru, a Delyth Isaac, Pennaeth Newyddion BBC Cymru.