Oni bai bod rhywbeth yn newid, erbyn 2050 mi fydd yna fwy o blastig na physgod yn y môr. Dyna un o brif negeseuon awdur llyfr newydd sy’n addysgu plant am yr argyfwng enbyd…

Roedd taith i’r Arctig i edrych ar effaith llygredd plastig ar un o rannau mwyaf anghysbell y blaned yn ddigon i yrru ias lawr cefn awdur ac ymgyrchydd amgylcheddol.

Nawr, bydd Mari Huws yn rhannu gwaddol y fordaith gyda phlant Cymru mewn llyfr newydd sy’n llawn darluniau yn ogystal â geiriau.