“Terminoleg y gorffennol” yw sôn am annibyniaeth i Gymru, yn ôl Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynlluniau i ddatganoli pwerau dros Gyfiawnder o San Steffan i Fae Caerdydd.

Mae’r Llywodraeth hefyd yn awyddus i weld pwerau dros Blismona yn cael eu datganoli.

Ond er gwaethaf y dyhead am ragor o bwerau, dyw dadlau dros annibyniaeth i Gymru “ddim yn ddefnyddiol iawn”, yn ôl Mick Antoniw.