Roedd telynorion Cymru yn ddigalon yr wythnos ddiwethaf ar ôl clywed bod cwmni Telynau Teifi yn Llandysul am roi’r gorau i’r gwaith, ac na fyddan nhw’n cymryd rhagor o archebion.

Gyda hynny, mae rhan fawr o’r traddodiad adeiladu telynau yng Nghymru yn dod i ben.