Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru eisiau “perthynas waith gall a synhwyrol gyda Llywodraeth Cymru”…

Dyw’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Swyddfa Cymru ddim yn dda iawn ar hyn o bryd.

Mewn gwirionedd fe allai rhywun ddadlau nad yw hi erioed wedi bod mor wael.

Ar yr wyneb, nid yw’n syndod fod Llywodraeth Lafur Cymru yn anghytuno gydag adran Gymreig Llywodraeth Geidwadol Prydain, ond mae’n teimlo fod yna ddrwg deimlad gwirioneddol wedi cyniwair yn y cyfnod yn dilyn Brexit.