Cyfeiriaf at lythyr Wendy Jones (Golwg 19/5/22) ynglŷn â’r sefyllfa yn Wcráin.

Rwyf innau a llawer eraill yn ofni y gall y rhyfel arwain ar gyflafan waeth petai Rwsia yn defnyddio arfau niwclear.

Fodd bynnag, ni ddylai’r posibilrwydd hyn nadu gwledydd y gorllewin rhag cyflenwi arfau confensiynol/amddiffynnol i wlad sy’n brwydro yn arwrol yn erbyn ymosodiad mileinig.