Mae trafferthion Gogledd Iwerddon yn fwy na thrafferthion un rhan o wlad, yn ôl Gerry Hassan yn yr Alban. Conffederaliaeth ydi ei ateb o – lle byddai’r tair gwlad ac Ulster yn bartneriaid cyfartal, sofran…

“… bydd rhaid curo un traddodiad gwleidyddol. Yr obsesiwn Torïaidd (ac i raddau llai, yr un Llafur) ynghylch sofraniaeth seneddol, grym canolog heb ei lastwreiddio na’i rannu a ffuglen amheus ‘y Goron yn y Senedd’ sydd wedi dod yn fwy amlwg fyth o ganlyniad i Brexit ac amryfal argyfyngau a rhwygiadau’r Deyrnas Unedig… Yn ogystal â’i holl broblemau ei hun mae Gogledd Iwerddon, fel gweddill y DU, yn cael ei dal yn ôl gan ddiffyg gweld, hunan-dwyll a dirywiad gwleidyddiaeth Prydain a dylanwad parhaus y meddylfryd Imperialaidd sydd wrth galon elît gwleidyddol y DU.” (bellacaledonia.org.uk)

Yn ôl John Dixon, mae brwydrau Brexit hefyd yn llesteirio datblygiadau yng Ngogledd Iwerddon…

“Mae gan y Cynulliad bellach fwyafrif mwy fyth o blaid derbyn protocol Gogledd Iwerddon a gwneud iddo weithio… Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig, fel y bydd, wedi dewis yn hytrach dehongli canlyniad [yr etholiadau] fel galwad glir i ddileu’r protocol, hyd yn oed os bydd hynny’n arwain at ryfel masnach gyda’r Undeb Ewropeaidd… mae agwedd ddigymrodedd draddodiadol y DUP – plaid nad yw byth yn fwriadol yn dysgu o’i chamgymeriadau – yn cael ei defnyddio eto yn arf i geisio colbio ‘Brussels’.” (borthlas.blogspot.com)

O ran Cymru, mae blogwyr yn gweld rhwystrau eraill…

“… y realiti o hyd yw fod de Cymru wedi ei chlymu wrth Orllewin a De-ddwyrain Lloegr, ar draws yr M4 i Lundain, tra bod gogledd Cymru… wedi ei chlymu wrth Ogledd a Midlands Lloegr. Tra pery hynny, bydd unrhyw ymgais i greu economi genedlaethol glir y gallwn ni ei rheoli o gwbl yn anodd… Yn ddiamau bydd cynnydd mewn teithio o Loegr i ardaloedd mwy anghysbell (ond hardd) Cymru ond… mae hynny’n rhywbeth y dylen ni ei dderbyn… rhaid i ni ofyn, nid yn unig pa fath o rwydwaith trafnidiaeth sydd ei angen ar boblogaeth Cymru heddiw, ond hefyd sut y gallwn ni adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth sy’n creu’r math o Gymru y byddwn am ei gweld ymhen degawdau.” (Gwern Gwynfil Evans ar nation.cymru)

Mae yna bris gwerth i’w dalu hefyd am gynyddu nifer aelodau’r Senedd hefyd, meddai Ifan Morgan Jones …

“… yr hyn yr ydyn ni’n debyg o’i weld yw’r rhan fwya’ o etholaethau dan bawen y tair prif blaid – dau neu dri Llafur ym mhob sedd yn y Cymoedd efo un aelod Plaid a Cheidwadol ac efallai un Dem Rhydd yn y gwt. Ac fel arall yn ardaloedd cry’ Plaid a’r Ceidwadwyr… ond os ydyn ni am weld cynnydd mewn datganoli, all y perffaith ddim bod yn elyn i weithredu effeithiol.” (nation.cymru)

Ac, yn ôl Dafydd Glyn Jones, mae modd goresgyn problem fawr diffyg myfyrwyr y Gymraeg. Dyma ni…

“I arbed nifer o swyddi rhaid gweithredu ar frys gydag ateb ôl-fodernaidd ac ôl-strwythurol gan ffocysu ar seilweithiau rhyng-ddisgyblaethol a heb anghofio’r deilliannau cymhwysedd digidol a’r continwwm dysgu, ac ar yr un pryd datblygu’r capasiti synergedd a metawybyddiaeth ddisgresiynol.” (glynadda.wordpress.com)

Hynna, cwricwlwm CYFFROUS ac amrywiaethau ar Un Nos Ola Leuad.