Mae ymarferion ystwytho’r corff yn “ffordd o ymdopi gyda gwaith, gyda straen” yn ôl un ferch sy’n cynnal gwersi i blant ac oedolion ar ôl bod yn byw yn Sgandinafia…

Yn y Ffindir y dechreuodd diddordeb Cari Wyn Rowlands mewn ioga.

Er bod yr athrawes o Amlwch wedi mynd i ambell ddosbarth gyda’i mam ar Ynys Môn cyn hynny, cydiodd y diddordeb pan oedd hi’n cwblhau blwyddyn o astudio rhyngwladol.