Yn adnabyddus am chwarae’r drymiau gyda llu o fandiau gan gynnwys Candelas, Gwilym a Rhys Gwynfor, mae’r cerddor 25 oed o bentref Morfa Nefyn ym Mhen Llŷn hefyd yn gweithio’n llawrydd i Gwmni Theatr Bara Caws ar hyn o bryd…

Sut ddechreuoch chi chwarae’r drymiau?

Dw i’n cofio roedd gen i kit tegan plant pan oeddwn i’n tua dwy oed. Wedyn, pan oeddwn i’n tua pump neu chwech, wnaeth mam a dad brynu kit go-iawn i fi. Dw i jyst heb stopio ers hynny.