Tirwedd Cymru a merched sy’n ysbrydoli gwaith y ffotograffydd a’r gwneuthurwr ffilm ifanc, Gwenno Llwyd Till.

Wedi’i magu ar droed yr Wyddfa yn Nant Gwynant, mae Gwenno bellach yn ei hail flwyddyn yn astudio Ffilm a Theledu yn The University of the Arts yn Llundain.

Yn ddiweddar, mae Gwenno, sydd bellach yn byw yng Nghricieth pan nad ydy hi yn Llundain, wedi bod wrthi’n gweithio ar fideos pop ar gyfer y cerddorion Mared ac Al Lewis.