Mae hyd yn oed y melinau yn rhan o’r ddadl genedlaethol, wrth i’r pwysau gynyddu am godi rhagor o ffermydd gwynt yn sgil argyfwng Rwsia. Roedd llefarydd Plaid Cymru, Llŷr Gruffydd o blaid y syniad, ond dydi pawb ddim yn cytuno…

“Mae yna linell denau iawn (ond gwahaniaeth sylweddol) rhwng bod yn ‘allforiwr net’ a chael cymryd mantais ohonoch… sut mae Cymru a’i phobol yn elwa? Yn Lloegr does dim datblygiadau gwynt mawr wedi bod ar y tir (gyda’u heffeithiau gwael) ers i ddeddfwriaeth yn 2016 fynnu cael cefnogaeth leol. Does dim angen o gebl gan fod Llywodraeth Cymru’n cynorthwyo cyfalafwyr menter ryngwladol i gwrdd ag anghenion Lloegr ar gorn creithio tirweddau a chymunedau Cymru.” (Non Davies mewn sylwadau ar nation.cymru)

Mae’r rhyfel yn Wcráin yn cael effeithiau eraill, wrth gwrs. Yn ôl y polau piniwn, mae hynny’n cryfhau llaw Boris Johnson…

“… mae’r cyhoedd yn ymddangos yn gefnogol iawn i’r arian a’r arfau y mae wedi eu rhoi ar ein rhan hyd yn hyn ac yn gefnogol iawn i’r rhaglen sancsiynau. Mi ddaw’n amlwg tua Tachwedd-Rhagfyr beth yn union fydd eu barn… wrth i’r chwyddiant oherwydd y rhyfel a’r sancsiynau bentyrru ar yr hyn sydd eisoes yn taro’u pocedi… mae’r clwstwr cynta’ o rybuddion cosb ‘partygate’ wedi cael eu cyhoeddi ond mae’n ymddangos nad oes gan y cyhoedd ar y cyfan unrhyw ddiddordeb yn hynny rhagor – byddai wedi diflasu’n llwyr yn ddisgrifiad gwell.” (The Red Flag ar thepeoplesflag.blogspot.com)

Ond wrth i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig ddelio â phroblem arall – P&O, sy’n eiddo i gwmni yn Sawdi Arabia, yn sacio cannoedd o weithwyr – mae gan John Dixon bob ffydd na fydd y Llywodraeth yn gweithredu …

“Yr agosa’ y gallwn ddod at sicrwydd gyda Johnson yw cymryd, pan fydd dyn dweud bod rhywbeth wedi digwydd, yn digwydd neu am ddigwydd, y gwrthwyneb sy’n debyg o fod yn wir. O ystyried ei fod, fel eraill yn ei blaid, wedi galw am ddiswyddo pennaeth P&O, Peter Hebblethwaite, yr unig ddau gwestiwn sydd ar ôl yw pryd y caiff Hebblethwaite ei wneud yn farchog ac am be: gwasanaethau i brynu olew ar adeg o argyfwng, gwasnaethau i ddileu biwrocratiaeth ym maes cyfraith gyflogi; neu wasanaethau i osgoi trethi yn y porthladdoedd rhydd newydd?” (borthlas.blogspot.com)

Yn ôl i Gymru ac ateb Glyndwr Cennydd Jones mewn llyfr newydd ydi datganoli ffordd chwith…

“Pedair cenedl sofran gyda phoblogaethau o faint gwahanol iawn yn trosglwyddo rywfaint o’u hawdurdod sofran i gyrff canolog mewn meysydd o fudd cyffredin… megis masnach fewnol, math o arian, ystyriaethau economaidd mawr, amddiffyn a pholisi tramor, gyda’r teyrn Prydeinig yn cadw’i swyddogaeth.” (thenational.wales)

Ac mae’r cyn-Brif Weinidog, Carwyn Jones, yn diolch i chwaraeon ein bod ni yma o gwbl …

“Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg doedd gyda ni fawr ddim cyffredin i’w rannu. Roedd y mwyafrif wedi peidio â siarad ein hiaith erbyn 1901. Cafodd ein system gyfreithiol a’n cyfreithiau eu dileu yn 1542. Argraffwyd y papurau arian Cymreig diwetha’ yn 1908. Oni bai am ein timau chwaraeon yn y 19eg ganrif mae dadl na fydden ni yn gweld ein hunain yn genedl yn yr 21ain.” (thenational.wales)