Ynys Alys: cip y tu ôl i’r llen

Mae Ynys Alys yn cyfuno theatr, rap a phop ac yn dilyn merch ifanc a’i hannibyniaeth newydd wrth iddi adael ei chartref am y tro cyntaf. Mae’r gerddoriaeth wedi ei chyfansoddi a’i pherfformio’n rhithiol gan yr artist rap Lemarl Freckleton a’r artist pop Casi Wyn.

Gyda’r cynhyrchiad arloesol yn agor yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, mae’r Frân Wen wedi penderfynu rhyddhau tamaid bach i aros pryd yn ecsgliwsif ar BroAber360 – ewch yno i wylio’r fideo gerddoriaeth.

Ogwen di-blastig

Mewn fideo ar Ogwen360, mae Harri Pickering yn sôn am dreial newydd amgylcheddol sydd ymlaen ym Methesda.

Mae tair siop tecawê ar stryd fawr Bethesda am fod yn defnyddio cynhwysyddion di-blastig, ac mae Harri, sy’n gweithio i Dyffryn Gwyrdd, yn esbonio manteision y cynnyrch yma i’r amgylchedd ac i iechyd pobol, ac yn sôn sut gall pawb helpu i wneud Dyffryn Ogwen yn ardal ddi-blastig.

Ogwen Di-blastig

Lowri Larsen

Dyma Harri Pickering yn siarad am wneud Bethesda yn ddi-blastig

Casglu enwau’r cyn-enillwyr lleol

Wrth i Geredigion baratoi i groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol yn 2022, mae pobol o bob cwr o’r sir wedi bod yn dechrau hel atgofion am y Cardis sydd wedi ennill rhai o brif wobrau’r gorffennol.

Ddechrau’r wythnos cynahliwyd blog byw ar wefannau bro Ceredigion, a chafwyd llwyth o gynigion am enwau cyn-enillwyr o’r sir. Ewch draw i bro360.cymru i weld oedd ‘na Brifardd neu gantor o fri o’ch ardal chi!