Wrth i filiynau o bobl gael eu gorfodi i ffoi o Wcráin yn sgil rhyfel Valdimir Putin ar y wlad, mae’r Urdd wedi cadarnhau y byddan nhw’n cynnig llety dros dro i tua 250 o ffoaduriaid.

Fe fydd un o wersylloedd y mudiad yn cael ei drawsnewid er mwyn croesawu dinasyddion y wlad sydd wedi cyrraedd Cymru wrth iddyn nhw aros am lety parhaol.

Daw hyn yn dilyn trafodaethau efo Llywodraeth Cymru fel rhan o’r ymateb i’r argyfwng ffoaduriaid mwyaf yn Ewrop ers yr Ail Ryfel Byd.