“Os ydan ni eisiau deunyddiau sydd ddim yn ddibynnol ar danwydd ffosil na chwaith yn ddibynnol ar y tir, yna mae tyfu rhywbeth yn y môr yn ddewis amgen…”

Yr argyfwng newid hinsawdd a chreu mwy o gyfleon gwaith yn gysylltiedig ag arfordir Cymru oedd y sbardun i sefydlu’r ddeorfa tyfu gwymon gyntaf yng ngwledydd Prydain.

Mae Deorfa Wymon Penmon wedi’i lleoli yn nwyrain Ynys Môn, yng nghymuned Llangoed – cwta dair milltir o dref Biwmares.