Trwy lwc ddechreuodd gyrfa Guto Rhun, Comisiynydd Cynorthwyol Ar-lein S4C, ym myd radio a theledu.

Celfyddydau Perfformio oedd pwnc prifysgol Guto, sy’n dod yn wreiddiol o Fachynlleth a bellach yn byw yng Nghaerdydd, ond buan y sylweddolodd nad oedd o’r actor gorau.

Roedd angen dod o hyd i lwybr arall, felly, ac yn 21 oed cafodd swydd yn cyflwyno rhaglenni C2 ar Radio Cymru.