Mae’r cerddor 43 oed newydd ryddhau ei sengl gyntaf, ‘Canghenion’, dan yr enw Pelydron.

Daw yn wreiddiol o bentref Llanfrothen yng Ngwynedd, ac mae yn gweithio mewn llyfrgell ym Mirmingham…

Pryd wnaethoch chi fynd ati i greu cerddoriaeth?

Wnes i gychwyn ar y bass yn tua 2002, pan oeddwn i yn fyfyriwr Celf yn Sheffield.

Wnes i ymuno efo band syrff o’r enw Texas Pete – cyn hynny roeddwn i yn ffan o’r band ac wedi bod i’w gweld nhw yn chwarae yn y tafarnau.

Ddes i’n ffrindiau gyda’r gitarydd, a phan wnaeth basydd gwreiddiol y band adael, ges i wahoddiad i ymuno.

Wnes i esbonio wrthyn nhw fy mod i erioed wedi chwarae dim byd yn fy mywyd, a wnaethon nhw jesd dweud: ‘Wnawn ni ddysgu bob dim i chdi’.

Pryd wnaethoch chi gychwyn creu caneuon?

Ar ôl i Texas Pete sblitio fyny, wnes i gychwyn cyfansoddi ar ben fy hun a thrio canu am y tro cyntaf, a’r band ddaeth allan o hynny oedd Navvy.

Ar y pryd roeddwn i wir yn hoffi bandiau fel The Fall a Talking Heads, ac yn fy meddwl dyna sut yr oedden ni yn swnio – ond dim really!

Roedd Navvy yn indi pop swnllyd iawn, caneuon byr, ac roedden ni yn chwarae full speed a sgrechian dros yr holl sŵn.

Pryd wnaethoch chi gychwyn y project Pelydron?

Cyn y cyfnod clo cyntaf roeddwn i yn gweithio yn y ganolfan gelf yma ym Mirmingham, ond unwaith wnaeth y Covid droi fyny wnaeth o gau lawr, a wnes i golli fy ngwaith.

A gan bo fi wedi cymryd voluntary redundancy, ges i bonus bach cash, ag efo’r arian bach yna wnes i brynu’r darnau bach o dechnoleg roeddwn i angen i greu’r miwsig, a gitâr fass melyn newydd.

Ond gan bo fi wedi bod mewn bandiau swnllyd o’r blaen, roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth gwahanol – caneuon arafach, mwy melodig.

Sut gân yw ‘Canghenion?

Ym… dw i’n sort of dweud bod hi yn dream pop, ychydig bach yn space rocky ac arbrofol, efallai?

Ac mae’r bîts i gyd yn electronig.

Sut brofiad oedd symud o gefn gwlad i ddinas Sheffield i astudio Celf?

Wnes i setlo fewn yn eithaf cyflym, a sylweddoli fy mod yn berson eithaf urban!

Mae jesd dipyn bach mwy o gyfleon mewn dinas i ddod ar draws pobol sy’n debyg i fi ac yn licio’r un pethau.

Yr holl amser fues i’n byw yn Llanfrothen, dim ond fi oedd yn licio miwsig swnllyd a ffilms hir boring arti!

Beth ydych chi’n ei wneud ym Mirmingham? 

Dw i’n gweithio mewn llyfrgell ac yn The Electric Cinema, sinema annibynnol, ac mae fy amser sbâr yn mynd i greu tiwns.

Ddes i yma i astudio Masters mewn Linguistics, sef astudio gwyddoniaeth iaith.

Beth yw’r nod hirdymor?

Dw i ddim eisiau bod yn ddarlithydd na dim byd fel yna, dw i eisiau cario ymlaen fel myfyriwr, a’r plan yw cychwyn PhD.

Dw i yn casáu byd gwaith a ddim yn licio gweithio nine to five, a jesd eisiau bod yn sdiwdant am gyn hired ag y medra i.

Ydach chi’n dod o deulu creadigol?

Na. Tydi gweddill y teulu ddim efo lot o ddiddordeb yn y Celfyddydau. Tydyn nhw ddim yn bobol sy’n eistedd lawr a darllen llyfr neu wylio ffilm.

Felly ia, fi ydy’r family weirdo sydd efo diddordeb yn y pethau yma!

Beth yw eich ofn mwya’?

Mae yn gas gen i bobol sy’n gwisgo fancy dress, yn enwedig os ydw i’n adnabod y person sydd yn y fancy dress

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?

Dw i ar y beic bob diwrnod yn teithio drwy Birmingham, ac yn gwneud dipyn bach o redeg a dipyn bach o nofio.

Beth sy’n eich gwylltio?

Mae pawb yn dweud bo fi yn eithaf chilled, a does dim lot yn gwneud fi’n flin…

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd? 

Oh… dw i’n licio bwyta bwyd ar ben fy hun.

Fi ydy’r person yn y tŷ sy’n cario tre o fwyd i’r llofft i fwyta te.

Ond tasa raid i chi gael cwpwl o arwyr o gwmpas y bwrdd…

Mark E Smith, canwr The Fall.

Ac mae yna linguist eithaf difyr, Daniel Everett, wnaeth symud o’r Unol Daleithiau i wledydd fel Brasil i drio cael y bobol leol i goelio yn Nuw.

Ond tra’r oedd o yna, wnaeth o golli ei ffydd a phenderfynu astudio ieithoedd y tribes.

Ac mae o wedi sgrifennu llyfrau grêt am language evolution.

Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?

Dw i yn dal i ddisgwyl!

Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio? 

Funky adventure

Os oes yna lyfr yn dod nôl i’r llyfrgell ac mae o’n edrych fel ei fod o wedi cael ei gam-drin dipyn bach, wna i ddweud wrth y bos: ‘Wel mae’r llyfr yma wedi bod ar dipyn bach o funky adventure!

Beth fu’r gigs wnaethoch chi fwynhau fwyaf?

Y gorau oedd pan oedd Navvy yn cefnogi band o’r enw The Long Blondes o Sheffield.

Gawson ni fynd efo nhw ar daith ac roedd yr holl beth yn grêt… gigio yn Llundain, Portsmouth, a fyny i Gaeredin a Glasgow.

Gwyliau gorau?

Dw i’n hoples am fynd ar wyliau. Dim ond unwaith rydw i wedi gadael y wlad. Es i i Baris tra’r oeddwn i ar y cwrs Celf, ond roeddwn i yn eithaf blin yr holl amser ac yn edrych ymlaen i ddod nôl i Sheffield.

Hoff ddiod feddwol?

Dw i ddim yn yfad alcohol dim mwy. Felly dim ond yn yfad Robinsons Peach Squash.

Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?

Dw i ddim yn berson Gothi, ond dw i yn really licio Dracula gan Bram Stoker.

Mae The Secret History gan Donna Tart yn grêt hefyd.

A llyfrau Frans de Waal am animal intelligence.

Hoff air? 

Dw i’n licio ‘sosij’. Dw i’n chwerthin bob tro dw i yn darllen ‘sosij’… ac mae ‘selsig’ yn eitha’ ffyni hefyd!