Mae eleni’n argoeli’n flwyddyn fawr i gynhyrchydd o Gymru…

Yn ôl y cyfnodolyn dylanwadol The Stage, mae’r cynhyrchydd theatr o Fôn, Seiriol Davies, ymhlith y 25 artist i’w gwylio yn 2022.

A does ryfedd am hynny. Nid yw’r awdur a’r cynhyrchydd theatr wedi bod yn segura dros y pandemig, ond yn sgrifennu, yn mireinio ac yn cyfansoddi sioeau sydd, gyda lwc, am fwrw’u ffrwyth eleni.