Mae eisiau i S4C greu rhagor o gynnwys am Gymry du ac o liw, ac nid dim ond dibynnu ar wasanaeth ar-lein Hansh i’w cynrychioli.

Dyna farn awdur, sylwebydd a sgriptiwr sydd wedi creu llawer o gynnwys i Hansh dros y ddwy flynedd ddiwethaf ar agweddau o fod yn aml-hil ac yn Gymraes. Mae hi’n dweud ei bod hi’n “hen bryd” i’r platfformau eraill “ddal i fyny”.