Ar ddechrau ei flwyddyn olaf yn y swydd, mae Arwel Gruffydd yn edrych yn ôl ar ei gyfnod yng ngofal Theatr Genedlaethol Cymru…

Ar ôl 11 mlynedd yn y swydd, mae Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru wedi dweud ei fod am ildio’r awenau ym mis Mai eleni.

Mae Arwel Gruffydd nawr yn gobeithio dychwelyd at wneud rhywfaint o actio yn broffesiynol, a pharhau i gyfarwyddo.