Fe ddyblodd cwmni sy’n gwneud siocled ym Mhowys mewn maint yn ystod y cyfnod clo.

Erbyn hyn mae perchennog Coco Pzazz yn chwilio am adeilad mwy ac yn paratoi at brysurdeb y Nadolig…

Achub ac ailgartrefu ceffylau oedd y nod pan symudodd Lorrainne Whinn a’i gŵr o Loegr i Gymru nôl yn 2008. Dim ond ar hap y dechreuodd hi wneud siocled, a hynny er mwyn codi arian ar gyfer y ganolfan nid-er-elw oedd yn rhoi lloches a thriniaeth i geffylau.