Mae Shumita yn nyrs arbenigol ar ward strôc Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, a daw yn wreiddiol o dde Sir Benfro.

Aeth i’r Ysgol Greenhill yn Ninbych y Pysgod, “lle does dim Cymraeg o gwbl”, a doedd ganddi fawr o afael ar yr iaith hyd nes tua degawd yn ôl.

Un o Ddwyrain Bengal, sy’n rhan o Fangladesh erbyn heddiw, yw tad Shumita, a chafodd hi ei magu’n siarad Bengali a Saesneg.