Yn byw ym Motwnnog, Pen Llŷn, mae yn gweithio yn gymhorthydd mewn dwy ysgol yng Ngwynedd, yn briod gyda Wil sy’n gigydd, ac yn fam i Alia (12 oed) ac Anni (10)…

Sut ddaeth y cyfle i gychwyn recordio eich caneuon?

Yn y dechrau, wnes i sgwennu cân o’r enw ‘Robin Goch’, a hynny tra mewn galar ar ôl colli plentyn yn 2015.

A tua 2017 wnes i roi demo o’r gân ar Facebook, ac roedd yr ymateb yn anhygoel.