Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen
Llyfr cymharol newydd Simon Brooks, Hanes Cymry (2021) sef astudiaeth o ‘leiafrifoedd ethnig a’r gwareiddiad Cymraeg’. Mae’r gyfrol yn ysgytwol, yn enwedig o ran perthynas y Cymry â threfedigaethedd a chaethwasiaeth. Mae record Simon o ddadansoddi’n ddibetrus a dod i gasgliadau llachar yn destun edmygedd i gynifer ohonom. Yn y gyfrol hon mae ei weledigaeth o gymuned Gymraeg amlethnig yn ein gorfodi i feddwl o’r newydd am natur a chymeriad y Gymru Gymraeg ar draws y canrifoedd, ac yn wir am sylwedd ei dyfodol. Mae’r drafodaeth dreiddgar o fentaliti y Cymry yn Lloegr o ddiddordeb amlwg i mi. Campwaith, a dweud y gwir.
Y llyfr a newidiodd fy mywyd
Teg cyfaddef bod sawl cyfrol wedi fy ngorfodi i newid neu ailystyried fy agweddau ar wahanol adegau. Cyfrol gwbl feistrolgar Iorwerth Jones, David Rees – Y Cynhyrfwr (1971), a roes i mi’r awydd i fynd ati o ddifrif i astudio hanes twf ac effaith Anghydffurfiaeth Gymraeg. Yn y gorffennol esgeuluswyd stori’r capeli a’u dylanwad, ond mae hynny wedi newid i raddau diolch i waith haneswyr disglair gan gynnwys Geraint H Jenkins a John Gwynfor Jones. Y clasur llenyddol a’m lloriodd yn fy arddegau oedd nofel arolesol Gustave Flaubert, Madame Bovary (1856). Buom yn astudio’r gwaith ar gyfer Lefel A. Mae Flaubert yn cyfleu holl anobaith a gwylltineb Emma Bovary gyda dawn a phŵer anghyffredin. Mae’r darllenydd yn cydymdeimlo ac yn casáu bob yn ail. Rwyf wedi darllen y nofel sawl gwaith dros gyfnod o ddeugain mlynedd. Mae gen i awydd i’w chyfieithu i’r Gymraeg.
Y llyfr a ddylanwadodd fwyaf arna i
Mae pob llyfr, heb eithriad, yn gadael ei ôl ar ddyn rywfodd neu’i gilydd. Mae’n siŵr gen i mai’r Caniedydd (llyfr emynau’r Annibynwyr a gyhoeddwyd ym 1960) yw’r gwaith a ddylanwadodd fwyaf arna i. Roeddwn yn organydd yn un o gapeli Llanelli yn fy arddegau, a’r Caniedydd oedd y llyfr ar fy nesg bob amser. Hyd y dydd heddiw, gallaf roi rhifau cannoedd o emynau a thonau heb oedi eiliad… ond fe roes y Caniedydd lawer mwy na chatalog imi. Wrth astudio’i gynnwys yn fanwl, tyfodd fy ngwerthfawrogiad o emynyddiaeth Pantycelyn yn arbennig. Bu dysgu dwsinau o’i emynau ar gof yn destun cysur a chymorth i mi droeon.
Y llyfr sy’n hel llwch
Prynais Midnight’s Children gan Salman Rushdie ar ôl iddo ennill Gwobr Booker ym 1981. Rwyf wedi dechrau arno sawl gwaith ac wedi darllen tua chan tudalen, ac er mor arbennig yw’r arddull a’r pwnc (taith India i annibyniaeth, ac yna’r rhaniad rwng India a Phacistan) nid wyf wedi llwyddo ei orffen eto. Fe ddaw, ymhen yr hir a’r hwyr.
Llyfr yr hoffwn fod wedi’i ddarllen, ond heb wneud
Mae gormod o lawer i’w rhestru! Fel roedd Dad [yr academydd a’r hanesydd Hywel Teifi Edwards] yn dweud yn aml, ‘diawl o beth yw bod yn brin o amser’. Rhaid i mi ddarllen Un Nos Ola Leuad (1961) gan Caradog Prichard, un o Gymry Llundain, gan fy mod i’n ymwybodol iawn o ansawdd a dylanwad y gwaith. Mae’r nofel wedi gwerthu’n dda mewn nifer o ieithoedd, ac mae hynny’n ysgogiad arall.
Y llyfr dw i’n troi ato mewn cyfyng gyngor
Dydw i ddim fel arfer yn troi at lyfr penodol mewn cyfyng gyngor, ond yn hytrach er mwyn ymgolli ar adegau anodd neu oherwydd blinder a straen. Bryd hynny, bydd unrhyw lyfr sy’n fy mhlesio yn gwneud y tro. Gall fod yn nofel (rwy’n hoff iawn o waith Zola, Balzac a Stendhal) neu’n gofiant gwleidyddol (dau o’r goreuon yn Gymraeg yw cyfrol Rhys Evans, Gwynfor, a gwaith D Ben Rees, Jim, hanes James Griffiths). Gallaf ddarllen yn hawdd am oriau heb egwyl.
Y llyfr sydd wastad yn codi gwên
Atebion hawdd fan hyn. Yn Saesneg, nofel Kingsley Amis Lucky Jim (1954) am ddarlithydd ifanc yn dod i brifysgol (Abertawe?) ac yn profi bywyd coleg yn ei holl fychander a’i rodres. Yn Gymraeg, fy hoff nofel heb os yw Rhys Lewis (1885), campwaith Daniel Owen. Er bod digon o dristwch ynddo, mae Wil Bryan a’i ddirmyg am fywyd capel yn gwneud i ddyn chwerthin dros bob man. ‘Yr hen grafwr’ a’r ‘hen water works’ – mae pawb ohonom wedi adnabod y rhain yn ein capeli ein hunain!
Y llyfr y byddwn i’n ei roi yn anrheg
I’r Cymry Cymraeg mae’r dewis yn hawdd. Un o lyfrau arbennig fy nhad. Mae ei hanes cryno o’r Eisteddfod (1976) yn glasur, a’i The Eisteddfod (1990) yn y gyfres ‘Writers of Wales’ yn gyflwyniad arbennig i’r di-Gymraeg.
Fy mhleser (darllen) euog
Dydw i ddim yn darllen gormod o rwtsh erbyn hyn, gan mod i’n ceisio darllen cynifer o lyfrau da sydd mewn pentwr ar lawr yr ystafell wely. Ond rhaid cyfaddef bod cyfrolau’r carn-gachwr Caradoc Evans wedi peri i mi fosto chwerthin er fy ngwaethaf. Mae rhai o’r cymeriadau â’u Saesneg clapiog yn ddoniol iawn.
Y llyfr yr hoffwn gael fy nghofio amdano
Rwy’n mawr obeithio y bydd y ddwy gyfrol ar gapeli Llanelli (Capeli Llanelli, 2009) a Llundain (City Mission, 2014) yn werthfawr i ddarllenwyr y dyfodol. Mae’n fwriad gen i lunio math o hunangofiant pan ddaw’r amser priodol. Ac yn y pen draw fe hoffwn sgrifennu llyfr ar ddyfodol Cymru, gan ofyn cwestiynau plaen ynghylch natur llywodraeth ac uchelgais cenedlaethol.
HUW EDWARDS
Ers 2003, Huw Edwards yw prif gyflwynydd rhaglen newyddion fwyaf y BBC, News at Ten, ac ef fydd yn gohebu ar y digwyddiadau mawr Prydeinig fel priodasau brenhinol, Sul y Cofio, ac etholiadau cyffredinol. Cafodd ei eni ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’i fagu yn Llangennech, yn fab i’r darlithydd Hywel Teifi Edwards a’r athrawes Aerona Protheroe. Mae wedi ffilmio sawl cyfres deledu am Gymru i S4C a’r BBC, ynghyd â rhaglenni dogfen am David Lloyd George, Gladstone a Disraeli, ac Owain Glyndŵr. Enillodd wobr y Cyflwynydd Gorau gan Bafta Cymru droeon. Yn 2018 fe ddyfarnodd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ddoethuriaeth iddo ar ‘Hanes Capeli Cymreig yn y 18fed Ganrif’. Mae yn byw yn Dulwich, Llundain, gyda’i deulu.