Er bod un o ffilmiau dogfen y cynhyrchydd Dylan Williams wedi’i throsi’n ffilm i’r sinema gyda’r digrifwr Rob Brydon yn serennu ynddi, un arall o’i ffilmiau dogfen sydd agosaf at ei galon.

Yn wreiddiol fe gafodd y ffilm ddogfen Y Côr ei dangos ar S4C, gan adrodd hynt a helynt Côr Meibion Trelawnyd.

A dechrau’r mis roedd y fersiwn Saesneg, Men Who Sing, i’w gweld mewn sinemâu ar draws Prydain.

Wedi ei fagu ym mhentref Dyserth ger y Rhyl, mae Dylan Williams wedi byw yn Stockholm ers ugain mlynedd, gyda’i bartner Anna sy’n hanu o Sweden.

Yn ogystal â chynhyrchu ffilmiau ar gyfer sianeli teledu yn Sgandinafia a’r Almaen, mae Dylan wedi gweithio ar rai i S4C, BBC, a Netflix hefyd. Ond mae’r rhan fwyaf o’i ffilmiau’n rhai rhyngwladol ar gyfer sinemâu.

“Dw i’n un sy’n licio sgwrsio efo pobol erioed,” eglura Dylan.

“Fe wnes i fynd a thrafeilio o gwmpas Asia yn ifanc, ac roedd gen i ddiddordeb mawr mewn diwylliannau a ffyrdd eraill o fyw,” meddai am ei anturiaethau yn Japan, India, China, a Phacistan.

Ar ôl dychwelyd, aeth i astudio Anthropoleg yn Llundain, ac yn sgil hynny, cafodd gyfle i astudio ffilmiau anthropolegol.

Aeth ati i greu ffilmiau, gan ffilmio stori am deulu yng Nghaerffili lle’r oedd tair cenhedlaeth yn tyllu beddi.

Ar ôl hynny, creodd ffilm am ddyn oedd yn byw mewn bws yn Sir Benfro ar ôl colli’i bres i gyd.

“Roeddwn i’n gwneud ffilmiau bach fel hyn i fi’n hun mewn ffordd, ac ar yr un pryd yn gweithio ychydig bach mewn teledu, ond â diddordeb yn stori’r dyn bach.”

Datblygodd ei ddiddordeb wedi iddo symud i Sweden.

Gydag un o’i ffrindiau, aeth ati i greu ffilm “syml iawn” am hanes gŵr oedd yn bwyta ar yr un bwrdd, yn yr un bwyty, ers y 1930au.

“Yn sydyn reit roedd o yn y papurau newydd i gyd, ac roedd hi’r rhaglen ddogfen fwyaf poblogaidd,” cofia.

“Fe ges i fynd mewn i Film School wedyn yn Sweden, doedden nhw ond yn dewis pedwar person bob pedair blynedd i wneud y cwrs. Roeddwn i wedi blagio fy hun ar hwnna, a chefais i ddysgu lot am wneud ffilmiau.”

Ers hynny, mae Dylan wedi gwneud ei farc, gan gynhyrchu neu gyfarwyddo 16 ffilm yn y ddegawd ddiwethaf.

A galwad ffôn annisgwyl wnaeth sbarduno Dylan i ddod nôl i Gymru i ffilmio’r ddogfen am gôr ei Dad, Ednyfed Williams, sy’n 92 oed.

“Cefais alwad ffôn gan Dad – a dydi Dad erioed wedi galw fi ar y ffôn yn fy mywyd – a Dad yn dweud: ‘Dw i wedi gwerthu’r tŷ’…

“Ac nid yn unig bod o wedi gwerthu’r tŷ, roedd ganddo fo sgip tu allan, roedd o wedi taflu popeth.

“Roedd Mam wedi marw ychydig flynyddoedd yn ôl… Fe wnes i hedfan draw yn sydyn ar ôl hynny, a gweld o’n mynd o gwmpas y tŷ ac yn cael sgwrs, rywsut, efo Mam – tra’r oedd o’n gwneud hynny, roedd o’n eithaf pwerus.

“Roedd o eisio mynd i bractis y côr – fy Nhad erioed wedi methu practis ers roedd o’n 24.

“Es i fyny efo fo, erioed wedi wir gael diddordeb yn ei gôr o. Ac yn sydyn roedd yr ystafell yn llawn ac roedden nhw i gyd yn eu 80au, 70au, a’r un wynebau, yr un cyrtens, yr ystafell yr un peth.

“Roeddwn i’n gweld ryw fath o gymdeithas, a dw i’n licio hynny.

“Fe wnes i benderfynu, mae hwn yn mynd syth trwy ’nghalon i, a’r elfen cynical yna [o wneud ffilmiau] – fe wnaeth hwnna ddiflannu. Os oedd gen i siawns o wneud rhywbeth sy’n golygu fy mod i’n gallu gwario amser efo ’Nhad, roedd hynny werth popeth.”

Côr Meibion Trelawnyd

Fe gafodd Dylan a chriw Côr Meibion Trelawnyd hwyl arni, ac mae’r cyfarwyddwr yn hoffi’r cyfuniad o hiwmor a hiraeth sydd yn ei ffilm.

“Dw i’n meddwl eu bod nhw’n gweithio’n berffaith, os ti’n cael y balans yn iawn.

“Ac yn y ffilm yma mae yna lot o hwyl, lot o chwerthin, ond mae yna ddigon o sialens.”

Dywed Dylan mai gweithio ar Y Côr yw “un o’r pethau mwyaf positif” iddo’i wneud.

“Dw i wedi gwneud ffilmiau eithaf serious, dw i wedi gwneud ffilm am ddinistrio’r goedwig yn Borneo, dw i wedi bod yn North Korea. Ond mae hwn yn rhoi gymaint o bleser i fod yn ôl, dyna’r oeddwn i’n ei golli.

“Roeddwn i’n cerdded ar hyd lan y môr efo Merf [sy’n aelod o’r côr], fe wnaeth o farw, yn anffodus, o ganser… ac roedd o’n dweud wrtha i am gofio bod pob dydd yn bwysig.

“Fe wnes i ddreifio’n ôl i’r tŷ’r noson honno, a doedd Dad ddim adra, fe es i mewn, ac roedd y tŷ’n wag ac roeddwn i’n meddwl: ‘Wel, fel hyn fydd hi’.

“Wedyn y drws yn agor, Dad yn dod mewn, cael te efo’n gilydd, uffar o de neis, mwynhau, a’r teimlad yna o wirioneddol fwynhau cwmni, a mwynhau bod yma. Felly roedd o’n bleser.”

Pan symudodd Dylan i Sweden, ymunodd â thîm nofio cydamserol (synchronized swimming), a denodd ei ffilm ddogfen Men who Swim gryn ddiddordeb.

Cafodd y ffilm honno ei haddasu’n ffilm o’r enw Swimming with Men, gyda Rob Brydon yn actio’r prif gymeriad, sy’n seiliedig yn fras ar Dylan ei hun.

Mae Dylan yn gweithio ar ddwy neu dair ffilm ar yr un pryd, ond fel arall mae’n treulio lot o’i amser gyda’i deulu.

“Oni bai am hynny, dw i wedi gweld fy hun yn slipio mewn i middle age ac yn dechrau chwarae golff rŵan. Mae yn rhoi braw i fy hun fy mod i’n dechrau mynd yn gyfforddus, dw i erioed wedi bod yn un i licio hynny. Ond dw i’n licio chwarae golff!”