Mam o Flaenau Ffestiniog, Dr Lowri Cunnington Wynn, enillodd wobr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am gyfraniad eithriadol i addysg cyfrwng Cymraeg eleni.

Darlithydd Troseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Dr Lowri Cunnington Wynn.

Ond yn ogystal â’i gwaith academaidd, mae byw yn wyrdd yn bwysig iawn iddi – nid yw yn fodlon hedfan ar awyren, er enghraifft, nac yn bwyta cig.