Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Spain, Jan Morris. Ailddarllen hwn eto am sawl rheswm. Hiraethu am deithio diffwdan, marwolaeth yr awdur, ond yn bennaf oll y saernïo geiriau. ‘Llythyr caru i Sbaen’ efallai, ond llyfr sy’n crynhoi gwefr teithio a blas y darganfod.

Y llyfr a newidiodd fy mywyd