Er nad yw’r ffilm Gwledd wedi cael ei dangos hyd yma yng Nghymru, mae’r byd ffilmiau rhyngwladol eisoes wedi bod yn gloddesta arni, a chael blas garw.
Gwledd fydd gyntaf ar y fwydlen ac yn agor yr ŵyl ffilmiau arswyd Gymreig, Abertoir, ddydd Mawrth nesaf (Tachwedd 2). Dyma ei phremiere Cymreig, er nad yw hi allan yn swyddogol tan y gwanwyn nesaf. Mae hi serch hynny wedi cael ei phremiere “byd-eang” yng ngŵyl South By Southwest yn yr Unol Daleithiau ynghynt eleni, ac eisoes wedi ennill sawl gwobr.
Fe gipiodd hi’r ‘International Critics Prize’ yn y Neuchâtel International Fantastic Film Festival yn y Swistir; y ffilm Ewropeaidd orau mewn gŵyl ym Mhortiwgal; ac enillodd ei chyfarwyddwr, Lee Haven Jones, wobr Y Cyfarwyddwr Gorau mewn gŵyl yn Ne Corea.
“Mae wedi mynd y tu hwnt i’n disgwyliadau ni,” meddai awdur-gynhyrchydd y ffilm, Roger Williams. “Mae hi’n ffilm sydd wedi cael ei gwneud ar gyllideb gymharol fach. Mae’r genre arswyd mor gystadleuol, mae’r bobol sy’n hoffi ffilmiau arswyd yn ofnadwy o feirniadol.
“Mi weithion ni yn o galed i sicrhau bod yna hunaniaeth gyda’r ffilm, ei bod hi’n wahanol i ffilmiau eraill sydd wedi bod, yn ffilm sy’n rhoi i’r gynulleidfa arswyd rywbeth sy’n mynd i apelio, ond… bod digon o elfennau i gyrraedd cynulleidfa mwy mainstream. A sicrhau bod y ffilm yn teimlo’n Gymreig ac yn Gymraeg. Mae hi fel bod y cynhwysion hynny i gyd wedi dod ynghyd i sicrhau bod y ffilm wedi ennyn diddordeb pobol.”
Bydd Roger Williams, ynghyd â’r cyfarwyddwr Lee Haven Jones a dau o sêr y ffilm, Annes Elwy a Steffan Cennydd, yn sgwrsio ar ôl y ffilm yng ngŵyl Abertoir. Actorion eraill y ffilm yw Nia Roberts, Julian Lewis Jones a Sion Alun Davies.
“Mae e yn teimlo’n wahanol,” meddai’r awdur. “Dydi pobol ddim wedi clywed y Gymraeg yn y sinema. Dyna rywbeth ry’n ni’n ei glywed dipyn gan bobol, bod yr iaith mor estron iddyn nhw ei fod yn ychwanegu at y profiad sinematig.”
Yn y ffilm, mae teulu cefnog yn paratoi gwledd i ffermwr o gymydog a dyn busnes, yn y gobaith o berswadio’r ffermwr i brynu ei dir er mwyn gallu cael ei gloddio. Mae merch ifanc yn dod i helpu i weini’r bwyd, ac yn araf bach mae ei phresenoldeb tawel yn aflonyddu ar y gwesteion… Mae adolygiad ar y wefan ScreenAnarchy yn disgrifio’r ffilm fel ‘A superb Welsh folk horror’ ac mae sawl adolygiad yn canmol safon y cynhyrchu.
Cafodd ei ffilmio mewn tŷ mawr ar gyrion Llandrindod yn 2019 – “tŷ ffantastig,” yn ôl Roger Williams, yn efelychu pensaernïaeth tai o Japan a Sgandinafia. “Mae e’n edrych fel rhywle fyddech chi ddim yn disgwyl ei weld yng nghefn gwlad Cymru,” meddai.
Gwledd yw ffilm sinema gyntaf Roger Williams, a gafodd lwyddiant rhyngwladol gyda’i gyfres Bang i S4C. Mae’n dweud bod rhai pobl wedi dweud wrtho ei bod hi’n chwith nad yw ei ffilm wedi bod ar S4C.
“Dyma’r ffordd arferol o ryddhau ffilmiau sinema,” meddai. “Mae ffilmiau sinema yn cael cyfle yn y sinema os ydyn nhw’n lwcus, yna’n dod mas ar DVD, neu eu ffrydio’r dyddiau yma, a diwedd y daith yw bod y ffilm yn cyrraedd y teledu.
“Ry’n ni wedi bod yn ddigon ffodus fod diddordeb mawr yn y ffilm yn rhyngwladol. Nage pob ffilm sy’n cael y cyfleoedd mae’r ffilm yma yn ei chael, sy’n ofnadwy o gyffrous i mi. Yn nyddie cynnar S4C, dw i’n cofio mynd i’r sinema yng Nghaerfyrddin i weld ffilmiau Cymraeg ar y sgrin fawr. Ers Solomon a Gaenor, mae fel pe tase llai ohonyn nhw’n cael eu cynhyrchu.
“Felly ni’n ofnadwy o falch bod yna rywbeth am y ffilm sy’n apelio at gynulleidfaoedd a bod y ffilm yn mynd ar y daith yma, a bod cynulleidfaoedd ym mhob cwr o’r byd yn mynd i gael y cyfle i’w gweld hi.”
Dywed mai’r ffilm ddiwethaf yn y Gymraeg iddo ei gweld yn y sinema oedd Yr Ymadawiad gan y cyfarwyddwr Gareth Bryn yn 2015.
Bu’n broses hir cyn iddyn nhw allu dod â Gwledd i sylw’r byd oherwydd y pandemig. “R’yn ni wedi gorfod aros achos roedd y sinemâu i gyd ar gau,” meddai. “Un o’r pethe pwysig am y ffilm yma yw ei bod hi wedi cael ei chomisiynu gan Ffilm Cymru, BFI, Great Point Media, ac S4C fel ffilm sinema. Mae hi i fod cael bywyd mewn sinemâu.
“Yn y gorffennol, ry’n ni wedi gweld ffilmiau Cymraeg mewn sinemâu, ond maen nhw wedi bod ymlaen am un noson, neu am wythnos yn Chapter… Ond, gyda hon, gan bod dosbarthwyr wedi cymryd y ffilm, beth sy’n gyffrous yw ei bod hi am gael ei rhyddhau yn llawer mwy eang na ffilmiau o’r gorffennol.”
Byd-eang ei hapêl ond wedi ei gwreiddio yn y Gymraeg
Ffilm Gymraeg yw Gwledd yn ei hanfod am fod Roger Williams a’r cyfarwyddwr Lee Haven Jones, sydd hefyd yn actor, yn adnabod ei gilydd yn broffesiynol ers blynyddoedd.
“Mae’r ffilm wedi dod o’r berthynas greadigol honno, ac wedi cael ei chreu yn y Gymraeg,” meddai. “Doedd e ddim yn rhywbeth ro’n ni wedi cwestiynu, achos bod y ddau ohonon ni’n sgwrsio yn naturiol yn Gymraeg gyda’n gilydd. Felly roedd yr holl sgyrsiau ro’n ni’n cael am y proejct yn golygu bod DNA y ffilm yn Gymraeg.
“Gawson ni nifer o sgyrsiau ynglŷn â’r Mabinogi. Mae yna gwestiwn ynglŷn â’r cymeriad mae Annes Elwy yn ei chwarae yn y ffilm – roedden ni am i bobol ofyn a ydi hi’n arallfydol, o le mae hi wedi dod … ac wedyn roedd yna sgyrsiau ynglŷn â Blodeuwedd, a merched yn y Mabinogi sy’n gallu trawsnewid i anifeiliaid. Gan fod y sgyrsiau yna yn digwydd o fewn ein diwylliant, rydym ni wedi sicrhau bod gan y ffilm DNA Cymreig.”
Mae themâu amserol y ffilm, fel agwedd dyn tuag at ei gymdogaeth a’r amgylchfyd naturiol, wedi helpu o ran apêl ryngwladol hefyd.
“Mae hi’n cyffwrdd â themâu sy’n berthnasol iawn i ni yng Nghymru sy’n ymwneud gyda’n perthynas gyda’r tir, ein perthynas ni gyda’n milltir sgwâr, ein cyfrifoldebau ni tuag at ein cymunedau a diwylliant ein cymunedau,” meddai Roger Williams. “O ran hynny mae’n Gymreig iawn, ond dyw’r ffilm ddim yn gwneud hynny mewn ffordd amlwg.
“Mae’r themâu yma yn golygu rhywbeth i bobol o wledydd eraill. Mae’r pethe hyn yn ymwneud â chyfrifoldeb unigolyn tuag at y Ddaear, a’r bobol yn eu cymuned, yn bethe sy’n wir am wledydd eraill hefyd.”
Megis dechrau
Mae Roger Williams yn “falch” bod y cwmni dosbarthu, Bankside Films, wedi cytuno i ddangos Gwledd yng ngŵyl arswyd Abertoir yn Aberystwyth eleni.
“Mae llawer o barch tuag at Abertoir,” meddai. “Ry’n ni mor falch ein bod ni am gael agor yr ŵyl gyda’r ffilm. Dyma fydd yr unig gyfle i weld y ffilm yng Nghymru cyn ei bod hi’n cael ei rhyddhau yn swyddogol y flwyddyn nesaf.”
Megis dechrau ar ei thaith y mae’r ffilm felly. “Dw i wedi bod yn ceisio gwneud ffilm sinema ers blynyddoedd mawr,” meddai Roger Williams. “Ry’n ni’n teimlo’n ffodus ein bod ni wedi llwyddo i wneud ffilm, ond ei bod hi’n dechre ennyn sylw hefyd.
“Roedd hi’n grêt bod yn yr ŵyl yn Llundain (y BFI London Film Festival 2021) gyda 400 o bobol yn gwylio ffilm yn un o brif sinemâu’r BFI… a chael y profiad sinematig theatrig yna gyda ffilm a honno’n ffilm Gymraeg. Dy’n ni ddim yn cael digon o hynny. Rydych chi’n gallu teimlo weithiau bod y Gymraeg ddim yn bodoli yn y sinema, ond ry’n ni’n mawr obeithio gyda hon bydd hynna’n dechrau newid.”
Bydd 16eg Gŵyl Arswyd Abertoir yn digwydd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth rhwng 2 a 7 Tachwedd eleni, ac ar-lein rhwng 12 a 14 Tachwedd. Bydd hi’n dangos bron i 40 o ffilmiau arswyd mawr newydd heb eu rhyddhau o Gymru, Gwlad yr Iâ, Rwsia, Kazakhstan, Taiwan, Japan, yr UDA, Canada a rhagor. Ewch i Abertoir.co.uk am fanylion.