‘Lyfli o weird’ – mae Non Parry wedi ysgrifennu llyfr onest a didwyll am ei bywyd a’i gyrfa gyda’r grŵp pop Eden …
Ers datgan ar goedd yn 2019 ei bod hi’n cael pyliau difrifol o iselder, mae Non Parry a’i grŵp pop Eden wedi rhoi hwb fawr i’r drafodaeth ar iechyd meddwl yng Nghymru.
Nawr mae’r gantores o Ruddlan yn Sir Ddinbych wedi sgrifennu am ei bywyd, ynghyd â’i dadansoddiad hi ei hun pam ei bod hi’n dioddef o ddiffyg hunanwerth ers ei bod hi’n iau.
Enw’r llyfr yw Paid a Bod Ofn, wedi ei enwi ar ôl cân enwocaf Eden, y triawd pop y mae hi a’i chyfeillion agos, Rachael Adams ac Emma Walford, yn rhan ohono.
Dyma ei llyfr cyntaf, a hithau bron â chyrraedd ei hanner cant oed, er ei bod yn freuddwyd ganddi erioed i sgrifennu un. Diffyg hyder, meddai, yw’r prif reswm ei bod hi heb fentro gwneud cyn heddiw (er ei bod hi wedi sgrifennu sawl peth i’r teledu).
Fel y mae hi’n dweud yn ei llyfr, ‘… dyma fy stori i, a rhai o’r cymeriadau a’r digwyddiadau sydd wedi siapio pwy ydw i. Fyswn i byth wedi castio fy hun fel y prif gymeriad fel arfer achos fel lot ohonon ni dwi ’rioed wedi bod yn ffan mawr o fi fy hun… sy’n rili drist, yn dydi? Achos mae’n rili bwysig licio’r prif gymeriad a ni yw prif gymeriad ein storis ni’n hunain.’
Penodau byrion sydd yn y llyfr, sy’n ysgafn ond eto’n ffraeth ac yn wreiddiol tu hwnt. Mae hi’n sgrifennu am sawl agwedd ar fywyd – teulu ac ysgol, canu a chyfeillgarwch Eden, bod yn llysfam yn 24 oed, magu plant, colli plentyn a cholli ei mam.
“Y pwnc wnes i ddechrau gynta’ efo oedd sgidie,” meddai Non Parry, “sy’n swnio mor arwynebol, ond roedd o’n hawdd i’w sgrifennu achos dw i’n caru sgidie. Yr ail beth i mi ddechrau sgrifennu amdano oedd colli Mam.
“Mewn ffordd, yn isymwybodol, dw i’n meddwl wnes i ddewis rhywbeth rili hawdd, ac wedyn rhywbeth rili anodd reit ar y cychwyn, a meddwl, bydd popeth arall yn kind of olreit rhwng y ddau begwn yna.”
Mae’r llyfr wedi ei sgrifennu yn iaith lafar naturiol yr awdur. Er bydd yr holl ‘rilis’ a ‘let’s face it’ yn dân ar groen ambell i burydd, y nhw fydd ar eu colled os na ddalian nhw ati i ddarllen.
“Roedd gwneud hwn fel full circle,” meddai. “Ychydig bach fel breuddwyd. Be’, dw i actually wedi sgrifennu llyfr?! Achos ro’n i’n caru llyfrau, yn caru’r llyfrgell. Dw i wedi ei wneud o. Mae o’n tick on the to do list.”
Roedd sgrifennu llyfr wastad wedi bod yn freuddwyd gan ei mam hefyd. “Yn yr wythnosau cyn iddi hi farw, mi wnaeth hi ddechrau sgrifennu llyfr,” meddai Non. “A chyn i fi ddechrau sgrifennu, ro’n i’n ddweud: ‘Dw i ddim yn gwybod lle i ddechrau efo hwn, Dad.’ ‘W, gad i fi nôl llyfr dy fam i ti gael ychydig bach o ysbrydoliaeth.’
“Roedd hynny’n eitha’ emosiynol, ac mi wnes i feddwl: ‘C’mon, Non, roedd dy fam rili eisio gwneud hwn. Ti wedi cael cyfle i’w wneud o, so jyst gwna fo.’ Felly dw i wedi ei wneud o iddi hi ac i fi, er y bydde hi ddim yn licio’r rhegi ynddo fo, dw i ddim yn meddwl! Ond mae o’n llyfr i Mam a fi.”
Cael ei galw yn “siom”
Mae’r ddawn dweud yn gwbl amlwg ar dudalennau Paid a Bod Ofn, a rhywun yn gresynu nad yw hi wedi mentro i fyd llên ynghynt. Efallai bod y bai yn rhannol ar un o’i hathrawon, o ddarllen un o benodau’r llyfr.
Ynddi mae hi’n sôn am yr adeg pan yr oedd hi ar ei ffordd i gael cyngor gyrfaoedd gan bennaeth ei blwyddyn, ac yn pendroni ym mha bynciau yr oedd yr athro yn meddwl roedd ei chryfderau – Celf, neu Lenyddiaeth Saesneg? ‘Dwi’n licio meddwl am storis. Nyrsio fel Mam falle? Rhywbeth i neud efo canu hyd yn oed? Who knows?’
Ond fel yr oedd hi’n cerdded trwy’r drws, dyma’r athro yn dweud, ‘Oh, Non Parry… pam ti’n mynnu bod yn gymaint o siom?’ ‘Y peth mwya trist yw o’n i’n gutted achos o’n i’n meddwl ei fod o’n iawn,’ meddai yn y llyfr.
Erbyn heddiw, mae hi’n credu bod y digwyddiad yma, ynghyd â’r ffaith bod nifer wedi dweud wrthi mai hi oedd ‘damwain y teulu’ (roedd ei chwaer a’i brawd yn 10 ac yn 7 pan gafodd hi ei geni), yn rhannol gyfrifol am ei theimladau ynghylch hunan-werth.
“Mae’r rheina wedi siapio’r gorbryder, a’r iselder yn bendant,” meddai wrth Golwg. “O’n i jyst yn teimlo mod i ddim i fod yma. Do’n nhw ddim yn ei feddwl o’n greulon, jyst ffordd o siarad oedd o.
“Rŵan, dw i wedi cael gymaint o therapi, hwnna oedd yn dod yn ôl ac yn ôl – fy mod i’n dweud fy mod i ddim yn ffitio fewn i unrhyw gang, yn teimlo allan o le, yn ansicr. Dw i’n bendant yn meddwl bod y label yna, a’r athro yna, wedi cael effaith eitha’ mawr arna i. Ddim fy mod i yn rhoi’r bai ar bobol eraill – ond byddwn i’n dweud bod hynny wedi cael effaith.”
Yn y llyfr, mae’n cyfaddef: ‘Ges i ddim gwahoddiad i’r parti rili. Dyma nath siapio fy hunan-werth. Dwi wedi teimlo nad o’n i rili i fod yn unrhyw stafell ers i fi gofio. A dwi dal i deimlo fel yna…’
Ar hyn o bryd, mae hi’n hyfforddi i fod yn therapydd ei hun. “Siarad ydi o ar ddiwedd y dydd. Dw i wedi cael gweld yr ochr arall. Dy’ch chi ddim yno i roi cyngor i unrhyw un, na dweud wrthyn nhw sut i fyw eu bywydau, chi jyst yna i wrando. Dyna’n sicr sydd wedi fy helpu fi.”
Ar ôl iddi gyhoeddi’r blog ar y wefan meddwl.org yn trafod ei hiechyd meddwl, fe wnaeth Eden grysau-t gyda’r geiriau ‘Paid a Bod Ofn’.
“Honna oedd yr un gân roedd pawb yn eu canu tuag atan ni,” meddai Non. “Roedden ni bron iawn yn ei berfformio fo ar autopilot, achos ro’n ni wedi ei wneud o mor aml. Rŵan, mae o wedi cymryd ystyr wahanol.
“Pan wnaethon ni’r gig yn y pafiliwn yn Eisteddfod Llanrwst [2019], a’r gynulleidfa yn llawn o’r crysau t… roedden ni’n teimlo ein bod ni wedi creu cymunedau bach lle’r oedd hi’n iawn i beidio â bod yn iawn.”
Canu, a Caryl
Yn y llyfr mae hi’n sôn am ei chefndir yn canu a hanes y grwpiau yr oedd hi’n rhan ohonyn nhw cyn Eden. Dyna Papur Gwyn, grŵp ‘Sidan-esque’ hi, Rachael, a thair merch arall o Ysgol Glan Clwyd, a oedd yn canu ac yn dawnsio’r un pryd. ‘RADICAL. Mae’n rhaid bod Bananarama yn shitio’u hunain!’ meddai yn y llyfr.
Roedd Emma o ysgol wahanol iddi, Ysgol y Creuddyn, ac yn aml byddai’r ddwy’n dewis bod yng nghwmni ei gilydd yn creu sgriptiau a gwneud fideos o’u hunain yn hytrach na chymdeithasu mewn gigs fel eu ffrindiau. Buodd y ddwy yn gweini mewn tafarn yn Abergele, ac yn canu mewn nosweithiau yno.
Yna cael bwcings i ganu caneuon fel ‘Edelweiss’ ac ‘I Know Him So Well’ mewn gwestai yn Llandudno, a gweithio fel serving wenches yng Nghastell Rhuthun, swydd ‘degrading’ yn pledu medd i ddynion meddw: ‘I unrhyw un sy’n meddwl ein bod ni heb dalu’n dues i gael canu ar lwyfanne mawr, wel dyma’r dystiolaeth.’
Yna, Cola. Y grŵp pop pan oedden nhw’n 21 oed, gyda rheolwr yn mynd â nhw o fan i fan, a hyd yn oed cael perfformio ar This Morning. A hyn i gyd cyn y Spice Girls. Beth aeth o’i le, felly?
“Roedd ganddon ni’r manager yma a oedd â syniadau… gwahanol am sut roedd band yn gweithio,” meddai. “Roedd ganddo fo flaenoriaethau gwahanol … Roedden ni jyst eisio canu. Roedd o’n mynd a ni o gwmpas i lefydd, a doedden ni byth yn canu. Roedd o jest yn ein dangos ni i bobol. Doedd o ddim yn teimlo’n iawn… Mi wnaethon ni jyst stopio.”
Chwilio am fersiwn benywaidd o Take That oedd y rheolwyr ar y pryd, yn ôl Non Parry. “Mi wnaeth o weithio’n briliant i ni fod y Spice Girls ar yr un pryd â ni, achos roedd galw am rywbeth tebyg yng Nghymru,” meddai.
“Roedden ni’n gallu mynd i eisteddfodau, a’r plant bach yma oedd yn ein licio ni yn gallu dod draw aton ni a chael lluniau efo ni. Nawr mae’r plant bach yna rŵan yn eu hugeiniau hwyr efo babis bach yn dod i’r gigs efo prams, ac rydan ni’n canu yn eu priodasau nhw. Mae’n lyfli o weird.”
Buodd hi’n ‘obsesd’ â cherddoriaeth pop pan oedd hi’n ifanc, yn treulio oriau yn astudio fideos o gantorion fel Madonna. Ond i ‘syrcit yr Urdd’ y mae’r diolch am ei gallu i ganu.
“Mi wnaeth o roi hyfforddiant i fi, dysgu chi sut i anadlu,” meddai. “Dw i ddim yn gallu darllen cerddoriaeth – dw i’n teimlo’n ridiculous fy mod i methu – ond mae’r dysgu caneuon clasurol ac eisteddfodol yna yn y côr yn bendant wedi helpu fy llais i wneud pethau fydde fe ddim wedi ei wneud jyst yn copïo Madonna, Janet Jackson neu Kylie Minogue.”
Mae hi hefyd yn diolch i’w hewythr a’i modryb, y cyfansoddwr Rhys Jones a’r hyfforddwraig Gwen Parry Jones (rhieni Caryl Parry Jones), am eu hanogaeth.
“Hebddyn nhw fyddwn i ddim yn canu, ro’n i mor ansicr pan oeddwn i’n fach,” meddai. “Do’n i ddim yn licio canu o flaen pobol.”
Yn ogystal â Janet Jackson a’r rhein, roedd hi’n ‘obsesd’ gyda Caryl Parry Jones ei chyfnither hefyd. “Roedd hi fel Madonna i ni yn tyfu fyny,” meddai. “Mae hi’n ddylanwad enfawr arna i yn canu, a’r steil o ganu, a’r math o gerddoriaeth dw i’n eu licio.”
Daeth Eden i fod ar ôl iddi hi ac Emma Walford gael y cyfle i ganu lleisiau cefndir ar gyfres Caryl ar S4C, yn llenwi slot rhydd. Ar ôl denu Rachael atyn nhw eto, dyma nhw’n meddwl am yr enw Eden, er mwyn perfformio cân wreiddiol Caryl, ‘Paid a Bod Ofn’.
Mae hi a Caryl yn bennaf ffrindiau hyd heddiw, ac yn cydweithio gyda’i gilydd yn aml. Mae hi’n sôn yn y llyfr pa mor ‘ridiciwlysli hael’ mae Caryl gyda’i dawn: ‘… dwi ddim yn meddwl y byswn i mor chilled am sgwennu anthem fath â ‘Gorwedd gyda’i Nerth’ ac wedyn rhoi’r gân i rywun arall i’w chadw a’i pherfformio am byth.’
“Mae hi’n ddylanwad enfawr arna i yn canu, a’r steil o ganu, a’r math o gerddoriaeth dw i’n ei licio,” meddai, “achos ro’n i jyst yn ei dynwared hi lot pan o’n i’n tyfu fyny. Fyswn i’n gwybod ei chyfrinach, faswn i wedi ei ddwyn o ganddi. Mae hi mor hael. Dw i ddim yn nabod unrhyw un sy’n gweithio’n galetach na Caryl.”
Yn 2022 fe fydd y gân ‘Paid a Bod Ofn’ yn 25 oed, cân a gafodd ei sgrifennu i Eden gan Caryl Parry Jones. “Y bwriad ydi gwneud albym neu EP – yn bendant caneuon newydd,” meddai Non Parry. “Os yw popeth yn dal i fynd yn iawn y flwyddyn nesa, fyswn i yn rili licio gwneud taith a dathlu. Fyse dathlu 25 o flynyddoedd efo’r genod yn andros o treat.”
Paid a Bod Ofn, Non Parry, Y Lolfa, £9.99