James Bond sydd wedi dylanwadu ar steil yr actor ifanc sy’n byw ger yr Wyddgrug, ac sydd i’w weld yn y ddrama Craith ar S4C ar hyn o bryd. Mae Justin hefyd yn chwarae’r gitâr fas mewn band…

Smart a steilish

Mae gwisgo’n smart a steilish yn rhan fawr o bwy ydw i. Mae’n gwneud i fi deimlo’n sbeshal. Pan mae pobl yn fy ngweld i maen nhw bob amser yn dweud fy mod i’n edrych yn smart, ac mae hynny’n bwysig iawn i fi.