Mae Pennaeth 47 oed Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Bangor – Aled Llion Jones – yn byw yn y Felinheli, yn enedigol o Gaerdydd, ac wedi ei fagu yn Rhandir-mwyn, Sir Gaerfyrddin…
Beth yw natur eich swydd newydd gyda’r coleg?
Darlithydd ydw i yn anad dim, yn cyfrannu at y dysgu ym meysydd llenyddiaeth, athroniaeth, astudiaethau Celtaidd, dysgu ail iaith, ac ati. Prif fwynhad y swydd, felly, yw dod i nabod ein myfyrwyr ardderchog, a thrafod eu syniadau.
Ond fel pennaeth adran rwy’n gyfrifol hefyd am drafod materion polisi gyda haenau eraill y Brifysgol a thu hwnt: Adran y Gymraeg yw cartref academaidd olyniaeth o gewri, o John Morris-Jones i Angharad Price, a braint yw cynrychioli’r uned unigryw hon.
Beth ddysgoch chi tra yn ddarlithydd Cymraeg yng Ngwlad Pwyl?
Am bum mlynedd dysgais yr iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth i’r ugeiniau – yn llythrennol – o fyfyrwyr a ddeuai i’r darlithoedd yn Lublin, yn ne-ddwyrain y wlad. Ond mae ystyr deublyg i ‘ddysgu’, a dysgais lawer fy hun hefyd, nid lleiaf am hanes cymhleth y rhan honno o Ewrop, a’i diwylliannau hithau. Mae gwersi, ysbrydoliaeth a rhybuddion amlwg yno.
Faint o ieithoedd ydych chi’n eu siarad?
Rwy wedi byw mewn sawl gwlad, a phob tro wedi ymdrechu i ddysgu o leiaf un o’r ieithoedd lleol. Pan fues i’n byw yn y Ffindir, es i am yr ‘opsiwn hawdd’ o ddysgu Swedeg, sy’n iaith leiafrifol yno, ond yn ddiweddar rwy wedi dechrau bodio’r llyfrau Ffinneg eto, gyda’r bwriad o gadw at hen addewid i ddysgu’r iaith ryfeddol honno. Eto, yr ateb onest i’r cwestiwn yw ‘dwy neu dair’: carpiog ddigon yw’r lleill gen i.
Oes yna wersi o’r Gaeltacht sy’n berthnasol i Gymru?
Ces i’r cyfle i fyw a gweithio yn Gaillimh (Galway) am rai blynyddoedd, a byddaf yn defnyddio’r iaith Wyddeleg yn ddyddiol (gan gynnwys ei dysgu i fyfyrwyr ar y cwrs gradd). O ran y Gaeltacht fel y mae wedi gweithio yn Iwerddon, y neges i ni yng Nghymru yw bod angen deddfwriaeth gryfach a mwy uchelgeisiol i warchod y Gymraeg. Yn ogystal, ac yn syml, mae angen ei defnyddio fwy. ‘Fesul gair mae achub iaith’, meddai Ifor ap Glyn un tro, ac mae hynny’n wir: bron yn ddieithriaid, byddai’n well defnyddio gair o Gymraeg na pheidio.
Beth yw eich argraffiadau o Harvard?
Treuliais bum mlynedd yno fel myfyriwr PhD, a dychwelais yn ddiweddar fel Athro ar Ymweliad. Yno mae’r unig Adran Geltaidd yng Ngogledd America, lle mae’r Gymraeg, ei hiaith a’i llên yn cael eu dysgu ar y cyrsiau gradd. Mae’n gymuned academaidd arbennig iawn, ac mae’n wych bod gennym ym Mhrifysgol Bangor gynllun cyfnewid unigryw sy’n golygu bod ein myfyrwyr ymchwil yn cael treulio semester yno, a hwythau’n cael dod atom ni, i gael manteisio ar arbenigeddau’n gilydd.
Beth yw eich atgof cynta’?
Cof gwael iawn sydd gen i: cofio methu cofio, efallai.
Beth yw eich ofn mwya’?
Byddaf yn poeni weithiau am heneiddio – ac yna sylweddoli nad wyf bellach yn ifanc ta beth. Peth cymhleth yw bywyd.
Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?
Seiclo, rhedeg, cerdded, nofio, dringo, codi geiriaduron…
Beth sy’n eich gwylltio?
Cyfrwystra ac anonestrwydd mewn gwleidyddion. Y gwrthwyneb mewn llenorion.
Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?
Byddai croeso mawr i Manon Steffan Ros alw draw i baratoi rhai o brydau Blasu, a byddai rhai o’n beirdd cynnar yn help i gadw’r gwledda i fynd!
Hoffwn wybod mwy am anifeiliaid Prydydd y Moch, syllu i wyneb Llygad Gŵr, a gweld p’un ai Sypyn Cyfeiliog ai Cynddelw Prydydd Mawr oedd y talaf.
Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?
Ar wahân i ‘wps!’, ‘iawn – wna’ i hynny’.
Beth yw eich hoff wisg ffansi?
Mae’r gynau a’r hetiau dros-ben-llestri a wisgwn adeg y seremonïau graddio yn ffansi iawn, ac rwy’n hoff iawn ohonyn nhw.
Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?
Byddaf yn cywilyddio’n hawdd iawn, ond mae darllen un adolygiad penodol ar fy llyfr cyntaf yn gwneud imi losgi o hyd.
Beth yw’r parti gorau i chi fod ynddo?
Yr ŵyl fawr gyntaf imi fod ynddi, sef Glastonbury ’95: bodio yno o Leeds, treulio wythnos arbennig, ac aros ymlaen gyda ffrindiau ymhell wedi i’r ŵyl swyddogol ddod i ben.
Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?
Nid yw’r nos yn broblem, ond mae gan gymydog ryw ddarn bach pitw o gi gwyn sy’n codi twrw yn angharedig o gynnar yn y bore.
Beth yw eich hoff ddiod feddwol?
Coctel Rwsiad Gwyn, á la ‘The Dude’ yn ffilm y brodyr Cohen (The Big Lebowski).
Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?
Mae’r wefr yn dal yn fyw yn y cof o ddarllen yn ifanc nofelau fel À rebours gan Joris-Karl Huysman, a La Nausée gan Sartre, ond os mai ‘difyr’ yw’r allweddair, rhaid rhoi plýg i’r unigryw Tro Trwy’r Wig gan Richard Morgan. O symud i lenyddiaeth ddiweddar, rwy wrth fy modd ag Olga Tokarczuk (ac yn edmygu ei gwleidyddiaeth hefyd), ond rhaid taw un o bethau difyrraf y cyfnod hwn yw Y Rhawnbais gan fy nghydweithiwr Jerry Hunter, stori arbrofol (os ‘stori’) sy’n ymddangos fesul tipyn yn O’r Pedwar Gwynt.
Beth yw eich hoff air?
Yn y Bwyleg, ‘ćma’ (gwyfyn), yn Ffinneg ‘siili’ (draenog) ac yn Gymraeg ‘gwybedyn’. Yn Saesneg, ers imi ddechrau dringo, y gair ‘belay’, hen air morwrol am ddiogelu rhaffau, er mod i’n hoff iawn o ‘midge’ hefyd.
Beth wnaethoch chi ddarganfod yn y cyfnod clo?
Coedwigoedd diflanedig Arfon, rhostiroedd Eryri, adar y Fenai, a’r pellter rhwng y Felinheli a Rhandir-mwyn.
Rhannwch gyfrinach efo ni…
Rwy’n ei chael yn anodd fy hun weithiau gredu imi gael fy medyddio’n Gatholig.